12 Mehefin 2025
Mae'r arwyddion ar gyfer Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall wedi'u gosod i helpu ein cleifion a'n staff i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y safle.
Wrth i chi gyrraedd Ysbyty Nevill Hall, trowch i'r dde wrth y fynedfa a dilynwch y ffordd yr holl ffordd o gwmpas i gyrraedd y maes parcio pwrpasol ar gyfer yr uned. Mae'r arwyddion newydd wedi'u cynllunio i sicrhau taith esmwyth a di-straen i bob claf ac ymwelydd. Dilynwch y 'V' werdd ar gyfer Felindre!