15 Hydref 2025
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o gyhoeddi bod Ceri Doyle wedi ei phenodi'n Aelod Annibynnol newydd.
Roedd Ceri yn Brif Weithredwr ar Newport City Homes (NCH), sef busnes cymdeithasol sy’n darparu ystod o dai yn ne-ddwyrain Cymru. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr ar ddosbarthwr mwyaf y DU o gyllid y Loteri Genedlaethol, ac mae hefyd wedi dal swyddi uwch ym maes llywodraeth leol.
A hithau wedi cyrraedd y rhestr fer Wobr Menywod Cymreig y Flwyddyn, mae Ceri wedi dal nifer o swyddi anweithredol ym meysydd iechyd, addysg a’r celfyddydau, ac mae’n parhau i fod yn gynghorydd gweithgar i gyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn aelod o Gyngor y Brifysgol Agored.
Wrth siarad am y penodiad newydd, meddai Ceri:
"Mae’n anrhydedd ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a chyfrannu at ei gwaith hanfodol o ddarparu gofal a chymorth i gleifion a’u teuluoedd ledled Cymru.
"Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd a gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth, ac at gwrdd â chleifion i adeiladu ar y sylfeini cadarn a’r gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion ein cymunedau a’n partneriaid."
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn bodoli i oruchwylio'r system lywodraethu a rheoli, gan gynnwys rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod y bwrdd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd mae pethau'n gweithredu a sut i gadw staff a chleifion yn ddiogel. Maent yn gwneud hynny trwy gyfarfod mewn llawer o wahanol grwpiau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o waith yr ymddiriedolaeth. Gelwir y rhain yn 'bwyllgorau'.
Yn aelod annibynnol, bydd Ceri'n cyfrannu ei sgiliau a’i harbenigedd ar draws ystod eang o feysydd. Bydd ei phrofiad helaeth ym maes datblygu tai cymdeithasol, rhaglenni ariannu arloesol, ac adfywio cymunedol yn dod â nifer o fanteision i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Bydd Ceri yn dechrau yn ei rôl ddydd Llun 27 Hydref a bydd ei chyfarfod cyntaf o'r Bwrdd ddydd Iau 27 Tachwedd.