9 Mai 2025
Ddydd Mawrth 6 Mai, roeddem wrth ein bodd yn lansio arddangosfa gelf gyntaf Felindre gan y claf Viv Leach, o'r enw 'It's a Wonderful Still Life'.
Yn 2023, cafodd Viv Leach ddiagnosis annisgwyl o ganser yr ysgyfaint. Yn ystod dyddiau cynnar ei thriniaeth, cafodd gysur ym mhrydferthwch blodau - anrhegion gan ffrindiau a theulu a oleuodd ei dyddiau. Roeddent yn symbolau o gariad a chefnogaeth, a thrwy beintio'r blodau hyn y darganfu Viv ei hangerdd dros greadigrwydd eto.
"Mae peintio wedi fy helpu i arafu a bod yn y foment. Fy ngobaith yw eu bod nhw'n dod â lliw, llawenydd a phositifrwydd wrth i chi gerdded heibio" - Viv Leach, Claf ac Artist Felindre
Mae celf Viv wedi cael ei harddangos ar ran rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd Felindre, dan arweiniad Sally Thelwell ac wedi'i hariannu gan Elusen Canser Felindre. Mae'r paentiadau ar gael i'w prynu, gyda'r holl elw yn mynd tuag at yr elusen.
Nod rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd yw gwella profiad cleifion, rhoddwyr a staff trwy ddarpariaeth gelf reolaidd, weladwy ac o ansawdd uchel i bawb. Drwy ategu meddygaeth a gofal, gall y celfyddydau wella iechyd pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl neu gorfforol a gwella eu lles. Gall ymgysylltu â'r celfyddydau gefnogi atal clefydau a hyrwyddo lles, a gall hefyd wella amgylcheddau gofal iechyd a bod o fudd i gadw staff, morâl, lles a datblygiad proffesiynol.
Mae rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd yn darparu llawer o fentrau gwahanol ledled Felindre, gan gynnwys perfformiadau gan Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru, y Cart Celf (sy'n annog cleifion mewnol i gymryd rhan mewn crefftau ar y wardiau), ac Anadlu - digwyddiad lles misol a gynhelir yn Amgueddfa Sain Ffagan.