Neidio i'r prif gynnwy

John Union yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

DYDDIAD

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o gyhoeddi bod John Union wedi ei benodi'n Aelod Annibynnol (Cyllid) newydd.

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn bodoli i oruchwylio'r system lywodraethu a rheoli, gan gynnwys rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod y bwrdd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd mae pethau'n gweithredu a sut i gadw staff a chleifion yn ddiogel. Maent yn gwneud hynny trwy gyfarfod mewn llawer o wahanol grwpiau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o waith yr ymddiriedolaeth. Gelwir y rhain yn 'bwyllgorau'.