Neidio i'r prif gynnwy

Nadolig yn Felindre: ein staff fydd ar sifft

23 Rhagfyr 2025

Tra bydd llawer ohonon ni'n treulio’r Nadolig gartref gyda’n hanwyliaid, bydd y Nadolig yn edrych ychydig ychydig yn wahanol i rai o’n staff yn Ngwasanaeth Canser Felindre.

Y tu ôl i’r llenni, bydd meddygon, nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd a staff cymorth yn gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr fod ein cleifion yn parhau i gael gofal o'r safon uchaf.

Mae eu hymroddiad yn golygu nad yw triniaeth yn stopio, a bydd pob claf yn cael ei drin gyda thosturi a phroffesiynoldeb, hyd yn oed dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Siaradom ni â rhai o’n cydweithwyr i ddysgu mwy am eu rôl a sut byddan nhw'n treulio’r Nadolig eleni.