Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymuno ag apêl y GIG ledled y DU yn annog rhoddwyr gwaed i helpu i ailgyflenwi stociau hanfodol y gaeaf hwn

Mae tua 15,000 o apwyntiadau rhoi gwaed ar gael i'w harchebu ledled Cymru rhwng nawr a mis Chwefror, wrth i Wasanaeth Gwaed Cymru ymuno ag apêl y GIG ledled y DU i helpu i gynnal cyflenwadau hanfodol i gleifion y gaeaf hwn.

 

Mae stociau gwaed wedi gostwng o dan bum niwrnod ar draws grwpiau gwaed allweddol yn y DU cyn yr hyn a ddisgwylir i fod yn gyfnod gaeaf anodd.

Er bod lefelau stoc yn amrywio rhwng y pedair gwlad, yr un yw'r neges i roddwyr: archebwch apwyntiad os ydych chi'n gymwys ac yn ddigon da i roi gwaed a helpu gwasanaethau i ailgyflenwi cyflenwadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mae'r her o hybu lefelau stoc yn cael ei chymhlethu ymhellach gan y cynnydd disgwyliedig mewn afiechydon tymhorol a thywydd gwael, a all effeithio ar allu'r Gwasanaeth i gasglu rhoddion gwaed.

Mae'r apêl yn rhan o ymgyrch gaeaf 'Rhodd Bywyd' Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu i annog pobl i roi gwaed, gyda thua 22,000 o apwyntiadau rhoi gwaed wedi'u trefnu ledled Cymru rhwng nawr a mis Chwefror.

Mae trallwysiadau gwaed yn cefnogi cleifion sy'n cael triniaeth canser, llawdriniaeth fawr a gofal brys, pobl sy'n byw gyda chlefyd cryman-gelloedd, a mamau sy'n profi cymhlethdodau yn ystod genedigaeth. Mae angen trallwysiadau rheolaidd ar rai cleifion i helpu i reoli eu cyflwr, tra bod angen gwaed ar eraill ar frys ac yn annisgwyl.

I Nicola Hawke, o Gasnewydd, roedd y gefnogaeth honno'n golygu dychwelyd adref at ei theulu mewn pryd ar gyfer y Nadolig ar ôl bod angen trallwysiadau gwaed brys arni yn dilyn genedigaeth ei gefeilliaid.

Nawr, mae'r fam i bedwar o blant yn cefnogi ymgyrch 'Rhodd Bywyd' Gwasanaeth Gwaed Cymru, gan ddiolch i'r rhoddwyr a helpodd i achub ei bywyd ac annog eraill i roi cyfle i fwy o deuluoedd dreulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd.

 

 

 

Anrheg a oedd yn golygu Nadolig gyda'n gilydd

Rhoddodd Nicola enedigaeth i Ayda ac Elora ar 25 Tachwedd 2022, union fis cyn y Nadolig. Er i'r efeilliaid gael eu geni'n iach, achosodd cymhlethdodau yn fuan wedyn i Nicola golli 2.25 litr, tua hanner y gwaed yn ei chorff.

Cafodd ei rhuthro i'r theatr a derbyniodd drallwysiadau gwaed lluosog yn ystod llawdriniaeth frys i atal y gwaedu.
Diolch i roddwyr gwaed a staff yr ysbyty a ofalodd amdani, gwellodd Nicola a dychwelodd adref gyda'i merched newydd-anedig dim ond pedwar diwrnod yn ddiweddarach. I'w dau blentyn hŷn, roedd hefyd yn golygu cael eu mam yn ôl adref.

Dywedodd Nicola: “Ganwyd y merched fis yn union cyn y Nadolig. Doeddwn i byth wedi dychmygu y byddai angen gwaed arna i, ond daeth yn wahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Diolch i staff yr ysbyty a’r bobl a roddodd waed, llwyddais i ddod adref gydag Ayda ac Elora a rhannu ein Nadolig cyntaf gyda’n gilydd.

“Rhoddodd y rhoddwyr hynny’r cyfle i mi wylio fy merched yn tyfu i fyny a bod yno ar gyfer penblwyddi, Nadoligau a’r holl eiliadau bob dydd rhyngddynt. Rwy’n hynod ddiolchgar.

“Os ydych chi’n gymwys i roi gwaed, ystyriwch archebu apwyntiad. Dydych chi byth yn gwybod bywyd pwy y gallech chi helpu i’w achub.”

 


 

Nid yw'r angen am waed yn dod i ben adeg y Nadolig

Mae profiad Nicola yn ein hatgoffa y gall yr angen am waed godi'n annisgwyl. Wrth i deuluoedd ledled Cymru baratoi ar gyfer y Nadolig, bydd cleifion yn parhau i ddibynnu ar waed a roddir ar gyfer gofal brys a thriniaeth barhaus, gan wneud pob rhodd yn anrheg a allai olygu mwy o amser gwerthfawr gydag anwyliaid.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae gwasanaethau gwaed ledled y DU yn gofyn i roddwyr ddod ymlaen y gaeaf hwn. Rydym i gyd yn dibynnu ar bobl yn gwneud amser i roi gwaed fel y gall cleifion dderbyn y trallwysiadau sydd eu hangen arnynt.

“Yma yng Nghymru, mae stociau rhai grwpiau gwaed o dan bum niwrnod. Ein nod yw cynnal stoc am saith niwrnod, ac rydym yn gofyn i roddwyr newydd a rhai presennol ein helpu i ailgyflenwi’r cyflenwadau hynny cyn cyfnod prysur yr ŵyl.

“Mae stori Nicola yn dangos beth all hyn ei olygu i deulu; Nadolig arall gyda’n gilydd a’r cyfle i rannu’r eiliadau bob dydd sy’n dilyn.

“Os ydych chi’n gymwys ac yn ddigon iach i roi rhodd, archebwch apwyntiad. Drwy roi Rhodd Bywyd y Nadolig hwn, gallech chi helpu teulu arall i rannu mwy o eiliadau gyda’i gilydd.”

 

Archebwch apwyntiad rhoi gwaed yn www.wbs.wales/Xmas26 neu ffoniwch 0800 252 266 heddiw.