Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwch rywun arbennig ar gyfer ein Gwobrau STAR!

18 Mehefin 2026

Rydyn ni'n annog y cyhoedd i enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau STAR, sef ein Gwobr Diolch a Chydnabod y Staff ar gyfer eleni.

Dyma’ch cyfle chi i ddathlu’r ffyrdd mae unigolyn neu dîm wedi gwneud gwahaniaeth i’ch profiadau a’ch canlyniadau fel rhoddwr, claf neu bartner.

Yn ogystal â’r Gwobr Dewis y Bobl, rydyn ni'n agor enwebiadau i’r cyhoedd ar gyfer gwobr newydd hefyd!

Ar gyfer 2026, rydyn ni wedi cyflwyno Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn, sy’n cydnabod rhywun sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gefnogi cleifion, rhoddwyr neu gydweithwyr, ac sydd wedi ymgorffori gwerthoedd yr Ymddiriedolaeth (gofalgar, parchus, atebol) ym mhob dim.

 

Ydych chi’n adnabod rhywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sy’n haeddu cydnabyddiaeth arbennig?

Enwebwch rywun ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl
Enwebwch rywun ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026

 

Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ym mis Hydref. Cadwch lygad ar ein holl sianeli am y diweddaraf rhwng nawr a hynny!