18 Gorffennaf 2024
Mae’r tîm yn y Ganolfan Ganser sy'n gyfrifol am y clinig dilynol dan arweiniad nyrsys i gleifion ar ôl iddynt gael radiotherapi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau The Nursing Times eleni.
Enwebwyd y prosiect, sy’n cael ei gyd-arwain gan Sarah Burton, sy’n Brif Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Gynaecolegol a noddir gan Macmillan, a Tamarha Jones, sy’n Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Gynaecolegol, yng nghategori Gwobr Nyrsio Canser Ingrid Fuchs. Mae’r wobr yn cydnabod nyrsys ym maes oncoleg a’r gofal clinigol medrus a’r cymorth dwys maen nhw’n eu darparu.
Trwy'r clinig, mae cleifion gyda chanser endometrial neu ganser y serfics yn cael apwyntiad awr o hyd lle mae modd mynd i'r afael â thocsigeddau o ganlyniad i'w triniaeth, trafod menopôs cynamserol, rôl therapi amnewid hormonau a'r symptomau sy’n gysylltiedig ag ef.
Cyn hynny, byddai cleifion yn cael apwyntiad cychwynnol 15 munud o hyd mewn clinig dilynol dan arweiniad meddyg ymgynghorol gyda nifer o apwyntiadau ychwanegol i ddilyn.
Meddai Sarah a Tamarha, sy’n cyd-arwain y clinig:
“Mae’n braf iawn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog The Nursing Times am ein clinig ar gyfer menywod sydd wedi cael eu trin am ganser endometrial neu ganser y serfics. Y clinig hwn yw'r cyntaf o'i fath i fynd i'r afael â sgil effeithiau'r driniaeth ar y coluddyn, y bledren, y fagina a'r menopôs, a hynny oll mewn un clinig.
"Gyda'n gilydd, mae gennym ni 46 mlynedd o brofiad ym maes iechyd menywod ac rydyn ni’n frwdfrydig tu hwnt dros wella triniaeth, gofal a phrofiadau menywod. Credwn ni fod y clinig hwn yn dangos ein bod wedi gwrando ar eu hanghenion a’n bod ni’n darparu ‘gofal sydd wir yn canolbwyntio ar y claf.'"
Ers ei dreialu ym mis Gorffennaf 2023, mae’r clinig wedi cael adborth anhygoel: dywedodd 95% o’r cleifion a holwyd eu bod yn hynod fodlon cael eu hatgyfeirio a 97% fod ganddynt hyder yn eu nyrs glinigol arbenigol “drwy’r amser.”
Dywedodd 100% o’r cleifion eu bod mor gyfforddus â phosibl yn ystod eu harchwiliad mewnol a bod eu nyrs glinigol arbenigol yn gallu ateb eu holl gwestiynau.
Roedd y sylwadau i’r tîm yn cynnwys “Fe wnaethon nhw wrando ar fy mhryderon, gwneud i mi deimlo’n gartrefol, ac roedden nhw’n ofalgar iawn” a “Diolch iddyn nhw, roeddwn i’n dawel fy meddwl ac yn gyfforddus. Ces i’r argraff mai fy anghenion i oedd bwysicaf.” Ymhlith y sylwadau eraill roedd "Ces i'r gofal gorau posib."
Bydd Gwobrau The Nursing Times yn cael eu cynnal yng Ngwesty JW Marriott Grosvenor House ar Park Lane yn Llundain ddydd Mercher 23 Hydref 2024.