Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr Gwobr Dewis y Bobl 2025 yw...

5 Rhagfyr 2025

Mae tri aelod o'r staff yn gydradd enillwyr ar Wobr Dewis y Bobl eleni.

Cyflwynwyd y wobr yn ddiweddar yn rhan o seremoni flynyddol Gwobrau Rhagoriaeth y Gweithlu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, lle cafodd 20 o unigolion a thimau eu cydnabod.

Dros yr haf, cafodd aelodau o’r cyhoedd gyfle i enwebu ein staff o bob un o’n hadrannau ar gyfer categori Gwobr Dewis y Bobl, ac roedd hi'n braf iawn gweld yr ymateb.

Cafwyd cyfanswm o 38 o enwebiadau ar gyfer staff o Wasanaeth Gwaed Cymru, Gwasanaeth Canser Felindre a’n gwasanaethau corfforaethol – y nifer uchaf ers ailgyflwyno’r gwobrau ar ôl y pandemig.

O blith yr enwebiadau hynny, lluniodd panel o feirniaid restr fer o bum unigolyn a phenderfynu bod tri enillydd haeddiannol (mewn ffont trwm):

  • Dr Annabel Borley, Ymgynghorydd yng Ngwasanaeth Canser Felindre (GCF)
  • Ashley Bowen-Jones, Arweinydd Tîm y Ganolfan Gysylltu â Rhoddwyr yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru
  • Carlie Watson, Nyrs Glinigol Arbenigol yn GCF
  • Michele Pengelly, Nyrs Arweiniol Gofal Cefnogol yn GCF
  • Michelle Norton, Nyrs Glinigol Arbenigol yn GCF

 

Yn ddiweddar, aeth Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Sara Moseley, i gwrdd â phob un o'r enwebeion i gael gwybod mwy am eu gwaith a pham cawson nhw eu henwebu: