Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar adroddiad Archwilio Cymru ar Ganolfan Canser Felindre newydd

5 Chwefror 2026

Rydym yn croesawu adroddiad Archwilio Cymru ar brosiect Canolfan Ganser Felindre newydd.

Cwmpas yr archwiliad oedd archwilio'r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'r prosiect. Mae'r adroddiad wedi gwneud hyn ac yn dod i'r casgliad fod yr Ymddiriedolaeth wedi dilyn y broses briodol, wedi ei llywodraethu'n dda ac wedi dod i benderfyniadau cadarn.

Mae disgwyl i Ganolfan Ganser Felindre newydd agor yng ngwanwyn 2027 a bydd yn sicrhau canlyniadau gwell trwy driniaeth o'r radd flaenaf am ganser, gwell cyfleusterau diagnostig, arloesi, hyfforddi ac ymchwil. Bydd Canolfan Ganser Felindre newydd yn creu cyfleoedd gwell ar gyfer treialon clinigol, yn cynnig triniaeth arloesol gyda chapasiti clinigol estynedig gan helpu ein cleifion i gael gofal gwell nawr ac yn y dyfodol. Mae Canolfan Ganser Felindre newydd yn allweddol yn symudiad sylfaenol Felindre tuag at ddarparu gofal yn y lle iawn - gan gyfuno canolfan ganser arbenigol o'r radd flaenaf â rhwydwaith estynedig o asedau rhanbarthol a gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid ledled de-ddwyrain Cymru.

Meddai Prif Weithredwr dros dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Carl James: “Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn gan Archwilio Cymru yn rhoi sicrwydd annibynnol pwysig ynghylch y ffordd y mae penderfyniadau ynglŷn â Chanolfan Ganser Felindre newydd wedi’u gwneud. Fel Bwrdd, rydym wedi bod yn glir ynghylch ein cyfrifoldeb i sicrhau llywodraethiant cryf, tryloywder a chraffu ar bob cam o’r prosiect cymhleth a hirdymor hwn. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod trefniadau priodol ar waith i'n helpu i wneud penderfyniadau a bod y penderfyniadau hyn wed eu llywio gan gyngor cadarn, her a phroses briodol.”

Mae'r adroddiad yn amlinellu:

  • Ar y cyfan, mae'r trefniadau llywodraethu sy'n hybu penderfyniadau allweddol yn rhoi sicrwydd eu bod wedi'u gwneud yn briodol.
  • Dilynodd yr Ymddiriedolaeth brosesau achos busnes a rheoli prosiectau sefydledig yn ddigon boddhaol.
  • Bu craffu priodol a mewnbwn gan arbenigwyr a rhanddeiliaid.
  • Dilynodd y broses gaffael y rheoliadau a oedd ar waith ar y pryd, a hynny wedi ei llywio gan gyngor cyfreithiol helaeth.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu y byddai'r Ymddiriedolaeth, heb y ganolfan ganser newydd, wedi gorfod parhau i reoli'r ganolfan ganser bresennol a buddsoddi mewn gwaith i wneud yr holl waith trwsio, cynnal a chadw sydd wrth gefn er mwyn dod â'n mannau clinigol i fyny at y safon ofynnol. Mae Archwilio Cymru yn amcangyfrif y byddai hyn wedi costio o leiaf £600m dros 25 mlynedd. Ni fyddai hyn yn creu yr un o'r manteision ychwanegol y mae ein canolfan ganser newydd yn eu cynnig.

Y gost ragweledig ar gyfer y gwaith dylunio, adeiladu, y cyllid a'r cynnal a chadw o dan gontract y prosiect yw £885m dros 25 mlynedd.