Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Uned Cemotherapi Felindre @ Nevill Hall

16 Chwefror 2025

Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn falch o ddathlu agoriad Uned Gemotherapi Felindre @ Nevill Hall ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Bydd yr uned hon yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni'n ei gwneud hi’n haws i bobl ar draws Gwent a de Powys gael gofal canser arbenigol yn agosach at eu cartref. Bydd ar agor bob dydd Mawrth a dydd Iau, ac yn darparu tua 20 o sesiynau cemotherapi y dydd, sef tua 15% o gyfanswm gallu Felindre i ddarparu cemotherapi bob dydd. Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn ein helpu i ateb y galw cynyddol wrth leihau amseroedd teithio hir i’n cleifion. 

Wedi’i chynllunio gyda chysur a pharch wrth ei chalon, mae’r uned newydd yn cynnwys: 

  • 7 cadair gyfforddus ar gyfer cemotherapi 
  • Tîm o nyrsys Felindre sy'n darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn 
  • Ffenestri mawr gyda golygfeydd braf o fryniau’r Fenni 

Croesawodd yr uned ei chleifion cyntaf yr wythnos diwethaf, gyda gofal yn cael ei ddarparu gan ein tîm bendigedig o nyrsys Felindre. 

Dywedodd Carl James, Prif Weithredwr Dros Dro YGIGPF: 
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel mor agos â phosibl i’n cleifion. Mae agor Uned Cemotherapi Felindre @ Nevill Hall yn gam pwysig arall ar y daith hon. Mae ein partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi’i sefydlu ers tro mae'n braf gallu cynnig gwasanaethau i gleifion ar draws holl dde-ddwyrain Cymru yn y cyfleuster hwn. O hyn ymlaen, bydd cleifion yn gallu cael radiotherapi a chemotherapi yn Nevill Hall, a dylai hyn wella eu profiad cyffredinol.”