1 Medi 2025
Rhoddir rhybudd drwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei gynnal ddydd Iau 25 Medi 2025 am 9:30am ym Mhencadlys Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Bilingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QZ.
Mae’n bleser gennym roi gwybod ein bod ni hefyd yn darlledu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 25 Medi 2025, gan roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i arsylwi mewn amser real. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod drwy Ddigwyddiad Byw ar Teams – gellir cael mynediad i’r cyfarfod trwy ddolen a fydd yn cael ei chyhoeddi drwy gyswllt. I gofrestru eich lle, cliciwch ar y ddolen – https://events.teams.microsoft.com/event/ee6fa174-e792-4fbd-ad3c-99fa9b45d84e@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae
Yn unol â'n hymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy, rydym wedi penderfynu argraffu copïau trwy gais yn unig. Gallwch gael copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Os oes angen copi caled arnoch o'r Adroddiad Blynyddol neu'r agenda mewn fformat arall, fel sain, print bras neu Braille, cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad isod:
Cyfeiriad: Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Billingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QZ
E-bost: VelindreESA@wales.nhs.uk
Ffôn: 02920 196161
Gallwch gyflwyno cwestiynau sy'n ymwneud â'r cyfnod adrodd 01 Ebrill 2024 – 31 Mawrth 2025 ar gyfer sesiwn holi ac ateb y Cyfarfod Cyffredinol blynyddol o flaen llaw drwy anfon e-bost at Kyle.Page@wales.nhs.uk erbyn 5yh ddydd Iau 18 Medi 2025 man pellaf.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn hapus i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn i ni gynllunio ar gyfer anghenion cyfathrebu'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, anfonwch eich dewis iaith i ni ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn.
Diolch / Thank you.
Sara Moseley, Cadeirydd