Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Roedd yn bleser gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre groesawu Prif Swyddog Meddygol Cymru am ymweliad a roddodd olwg gynhwysfawr ar y gwaith eang sydd yn cael ei wneud ar draws yr Ymddiriedolaeth, a'r cynnydd sydd yn cael ei wneud ar y Ganolfan Ganser Felindre newydd.
Penodwyd yr Athro Isabel Oliver yn Brif Swyddog Meddygol Cymru ym mis Ebrill 2025 ac yn ei rôl, mae hi’n darparu arweinyddiaeth glinigol a chyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru ynghylch materion iechyd ac iechyd y cyhoedd.
Roedd ymweliad yr Athro Oliver yn gyfle hefyd i arddangos maint safle newydd Canolfan Ganser Felindre, yr uchelgais glinigol y tu ôl i'r prosiect, a'r manteision y bydd y ganolfan newydd yn eu cynnig i gleifion, teuluoedd a staff.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd yr Athro Oliver gan nifer o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth a oedd yn tynnu sylw at ein blaenoriaethau sefydliadol, yn trafod y cefndir o ran datblygu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd, rôl ac effaith Gwasanaeth Gwaed Cymru, ein dull o arwain yn y maes meddygol, a chryfderau cynyddol ein portffolio ymchwil a datblygu.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Carl James: “Roedd yn fraint croesawu’r Prif Swyddog Meddygol a rhoi darlun llawn o waith yr Ymddiriedolaeth - o rôl genedlaethol hanfodol Gwasanaeth Gwaed Cymru i’r cynlluniau trawsnewidiol ar gyfer ein Canolfan Ganser Felindre newydd o’r radd flaenaf. Tynnodd yr ymweliad sylw at yr angerdd, yr arbenigedd a'r penderfyniad sydd yn cael eu darganfod ar draws ein timau, a'r ymrwymiad a rennir ar draws GIG Cymru i ddarparu'r gofal o'r ansawdd uchaf a'r canlyniadau gorau i'n cleifion a'n rhoddwyr."
Cafodd y Prif Swyddog Meddygol daith o amgylch safle’r Ganolfan Ganser Felindre newydd, lle cafodd weld y cynnydd sydd yn cael ei wneud o lygaid y ffynnon, a chwrdd ag aelodau o dîm y prosiect sy’n arwain y gwaith o’i ddatblygu.
Meddai’r Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â safle’r Ganolfan Ganser newydd, a gweld y cynnydd sydd yn cael ei wneud. Fe wnaeth uchelgais y tîm i wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru a gwneud Cymru yn arweinydd byd ym maes triniaeth canser greu argraff fawr arnaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i wireddu hyn.”
Dangosodd yr ymweliad raddfa'r adeilad, y weledigaeth glinigol sy'n llunio dyfodol gofal canser i ddarparu gofal gwell i gleifion, a'r nodweddion cynaliadwy sydd wedi cael eu dylunio, gyda chleifion a staff wrth wraidd y gwaith.
Meddai Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Roedd yr ymweliad yn foment bwysig i ddangos yr uchelgais glinigol sy’n sail i bopeth rydym yn ei wneud ar draws yr Ymddiriedolaeth. O ymchwil ac arloesedd i arwain yn y maes meddygol a dylunio ein Canolfan Ganser Felindre newydd, ein ffocws ydy gwella canlyniadau a chreu gofal o'r ansawdd uchaf i bobl ar draws Cymru. Roedd yn bleser gennym rannu’r weledigaeth honno gyda’r Prif Swyddog Meddygol.”
Tanlinellodd yr ymweliad ymdrech barhaus Felindre i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i bobl Cymru, a'r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at agor Canolfan Ganser Felindre newydd yn nhymor y Gwanwyn 2027.