Neidio i'r prif gynnwy

Artistiaid wedi'u gwahodd i lunio gweledigaeth greadigol o'r Ganolfan Ganser Felindre newydd

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn gwahodd artistiaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt i fynychu Diwrnod Ymgysylltu ag Artistiaid.

Bydd y digwyddiad yn cyflwyno cyfleoedd sydd ar ddod i weithio gyda Felindre, gan gynnwys prosiectau celf gyhoeddus a phrosiectau creadigol sy'n gysylltiedig â’r Ganolfan Ganser Felindre newydd (CGFn), sydd wrthi'n cael ei hadeiladu ac sydd i fod i agor yn Nhymor y Gwanwyn 2027.

Mae strategaeth gelfyddydau uchelgeisiol yn rhan allweddol o'r datblygiad, a bydd yn helpu i siapio profiad cleifion, ymwelwyr a staff yn y ganolfan newydd. 

Bydd cynrychiolwyr o dîm caffael yr Ymddiriedolaeth ar gael hefyd i esbonio sut i lywio prosesau comisiynu a thendro, a bydd aelodau o dîm y prosiect CGFn wrth law i drafod y weledigaeth y tu ôl i'r rhaglen.

Dywedodd Rheolwr Cynaliadwyedd yr Ymddiriedolaeth, Rhiannon Freshney: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i artistiaid helpu i lunio’r weledigaeth ac i ddysgu mwy am ein hystod eang o brosiectau creadigol cyfredol a'r rheiny sydd ar ddod. Rydym hefyd yn gyffrous i rannu mwy o fanylion am ein strategaeth gelfyddydau helaeth y tu ôl i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd, a fydd yn darparu amgylchedd iacháu sy'n lleihau straen, yn hyrwyddo urddas ac yn cefnogi lles ein cleifion a'n staff.

Bydd y diwrnod yn gyfle hefyd i drafod, gofyn cwestiynau ac i rwydweithio gydag artistiaid.

Bydd y diwrnod ymgysylltu yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 10 Rhagfyr o 10am tan 2pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. 

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i bob artist, dylunydd, gwneuthurwr a sefydliad creadigol sydd â diddordeb mewn gofal iechyd, lles a chelf gyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch  sustainability.velindre@wales.nhs.uk