Neidio i'r prif gynnwy

Arsylwch gyfarfod cyhoeddus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth | 27 Tachwedd

17 Tachwedd 2025

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal ei chyfarfod rhithwir o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn gyhoeddus ddydd Iau 27 Tachwedd 2025.

Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio'r cyfarfod o'r platfform fideo-gynadledda sydd ar gael yn eang, Microsoft Teams.

Cynhelir y cyfarfod rhwng 10:00am a 2:00pm. Gallwch weld y papurau a chofrestru eich diddordeb i fynychu'r cyfarfod nawr.

Fel aelod o'r cyhoedd, gallwch fynychu'r cyfarfod fel arsylwr. Mae hynny'n golygu y gallwch weld a chlywed y drafodaeth ond ni allwch gymryd rhan.

Rydym yn bwriadu darparu recordiad fideo o'r cyfarfod a fydd ar gael ar y wefan yn fuan wedyn. Am y rheswm hwnnw, gofynnwn i chi beidio â recordio'r cyfarfod eich hun.

Cynhelir y cyfarfod hwn yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd gwasanaeth cyfieithu byw ar gael.