29 Rhagfyr 2025
Mae Llywydd Elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.
Mae Jonathan 'Jiffy' Davies wedi derbyn teitl anrhydeddus Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei wasanaethau i bobl gyda chanser ac i ddarlledu.
Ac yntau wedi cynrychioli ei wlad mewn rygbi'r ddau god ac yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, mae'n gweithio gyda'r elusen ers 2007 pan ddechreuodd yn Betron ar yr Elusen.
Ers hynny, mae wedi ysbrydoli ac uno cymuned gyfan o roddwyr, codwyr arian, staff a gwirfoddolwyr am ran helaeth o'r cyfnod hwnnw, wedi cymryd rhan mewn heriau tramor, hybu mentrau codi arian lleol a sicrhau cefnogaeth nifer di-ri o bobl enwog a phartneriaid ar hyd y ffordd.
Meddai Jonathan:
"Rwy'n teimlo'n hynod o freintiedig ac yn falch o gael fy nghydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud ag achos mor agos at fy nghalon."
"Nid cyfanswm yr arian sydd wedi ei godi sydd wrth wraidd y gwir lwyddiant ond y bobl sy'n ei gwneud hi'n bosib. Mae cwrdd â nhw, clywed eu straeon, a gweld ein gwahaniaeth yn rhoi persbectif i bopeth ac yn ein hatgoffa pam rydyn ni'n gwneud hyn i gyd."
"Ein llwyddiant yw eu gobaith ac rwy'n falch iawn o sefyll gyda phawb sy'n helpu i wireddu'r gobaith hwnnw."