Gwybodaeth i gleifion sy'n dechrau cael triniaeth gyda chyffuriau gwrth-ganser
Bydd eich tîm canser arbenigol yn siarad gyda chi am y driniaeth maen nhw'n ei hargymell ar gyfer eich math chi o ganser. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y driniaeth a'r sgîl-effeithiau posibl.
Mae yna lawer o wahanol fathau o driniaethau y gallwch eu cael gyda chyffuriau gwrth-ganser, ac efallai y byddwch yn cael un neu fwy o wahanol fathau o driniaethau gyda’i gilydd.
Byddwch yn cael gwybodaeth ar bapur am eich triniaeth benodol, neu'n cael cyngor ar ble allwch chi ddod o hyd i hyn ar-lein – rydym yn argymell eich bod chi ond yn defnyddio gwefannau dibynadwy fel CRUK a Macmillan neu wefannau eraill y GIG i ddod o hyd i wybodaeth am eich canser a'r opsiynau triniaeth.
Mae’n gallu bod yn anodd iawn cofio popeth sydd yn cael ei ddweud wrthych chi. Er mwyn eich helpu i fod mor barod â phosibl ar gyfer eich triniaeth, rydym yn argymell eich bod chi’n gwylio'r fideo gwybodaeth / fideos ar gyfer eich math chi o driniaeth.
Gofynnwch i'ch meddyg canser, nyrs neu fferyllydd i ddweud wrthych chi pa fideos y dylech eu gwylio . Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o driniaeth neu gyfuniad o driniaethau maen nhw'n bwriadu i chi eu cael. Cliciwch ar y dolenni isod i wylio pob fideo:
Atalyddion cinasau tyrosin (TKI)
Cyclin Dependent Kinase (CDK) Inhibitors
Os na allwch ddod o hyd i'r daflen sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â'n Rheolwr Gwybodaeth i Gleifion, Leigh Porter, am gymorth ar Leigh.Porter@wales.nhs.uk neu 02920 196 132.
Cemotherapi Cyffredinol
Macmillan
Cancer Research UK
(Mae'r rhain yn ddolenni allanol ac felly nid ydynt ar gael yn Gymraeg)