Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei dderbyn.
Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.
Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth.
Mae'r ddyletswydd hon yn datblygu ar ein proses ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â Dyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i'ch gofal a'ch triniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio ein proses Gweithio I Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
lawrlwytho Canllaw Defnyddwyr Gwasanaeth i'r Ddyletswydd Gonestrwydd.