Neidio i'r prif gynnwy

Niraparib

A1034                                     

 

Taflen wybodaeth ar Niraparib

 

Mae'r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs triniaeth o'r enw niraparib.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd yn dweud wrthych chi hefyd am y sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw Niraparib?

Mae niraparib yn driniaeth canser sy'n cael ei rhoi fel capsiwlau. Mae'n therapi wedi'i dargedu, nid cemotherapi. Mae'n helpu i ganfod ac atgyweirio difrod i gelloedd i reoli'r canser.

 

Pam ydw i'n cael Niraparib?

Canfuwyd bod niraparib yn helpu rhai cleifion gyda'ch math chi o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol yn rheolaidd.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn gwirio sut rydych chi'n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei fonitro yn y clinig hefyd. Os oes gennych bwysedd gwaed uchel, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch tîm.

 

 

A gaf i ddod â ffrindiau a pherthnasau gyda mi?

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Does dim llawer o le, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut ddylwn i gymryd y capsiwlau niraparib?

Dylid cymryd capsiwlau niraparib ar yr un pryd bob dydd; rydym yn argymell eich bod chi’n eu cymryd gyda’r nos.  Dylai'r tabledi gael eu llyncu'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ni ddylid eu cnoi nac eu malu’n fan.  Gellir eu cymryd gyda bwyd neu heb fwyd.

 

Faint o gapsiwlau niraparib y bydd angen i mi eu cymryd?

Bydd faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd yn cael ei farcio'n glir ar y bocs. 

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n anghofio cymryd fy nghapsiwlau?

Gadewch y dos rydych wedi'i golli a chymerwch y dos nesaf ar yr amser arferol. 

Os ydych chi'n chwydu dos, peidiwch â chymryd capsiwl arall, arhoswch nes eich bod chi i fod i gymryd y dos nesaf.

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o gapsiwlau?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.  Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth/pager cemotherapi.

 

Sut ddylwn i storio’r capsiwlau?

Dylai eich capsiwlau gael eu storio yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn man diogel allan o afael plant. Dylid eu cadw mewn lle sych oer (islaw 25°C).

 

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel. 

 

Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgîl-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, y nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Salwch

Efallai y byddwch chi'n profi cyfog a chwydu gyda niraparib.  Byddwn yn rhoi tabledi gwrth-salwch i chi eu cymryd os oes eu hangen arnoch.  Os ydych chi'n sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Ceg boenus, ddolurus a newidiadau mewn blas

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn sych ac efallai y byddwch yn sylwi ar newidiadau mewn blas. Efallai y byddwch yn datblygu ceg ddolurus hefyd. Efallai y bydd eich meddyg yn argymell cegolch neu feddyginiaeth i helpu gyda hyn.

 

Colli archwaeth, cyfog a chwydu

Efallai y byddwch chi'n colli archwaeth ac efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n sâl wrth gymryd niraparib ond fel arfer, gellir rheoli hyn yn dda gyda meddyginiaeth gwrth-salwch.  Os ydych chi'n sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, dylech roi’r gorau i gymryd eich capsiwlau niraparib

niraparib a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall niraparib wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi’n gallu gwneud hyn.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ychydig o ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Pwysedd gwaed uchel 

Gall niraparib achosi cynnydd mewn pwysedd gwaed mewn rhai pobl.  Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio'n rheolaidd yn ystod eich triniaeth.  Os oes gennych gur pen, os ydych chi’n gwaedu o’ch trwyn neu os ydych chi'n teimlo'n benysgafn, rhowch wybod i'ch meddyg. 

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau, oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i'r ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Cyfrif gwaed isel

Gall niraparib effeithio ar eich cyfrif gwaed. Bydd eich gwaed yn cael ei fonitro yn y clinig. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd hyn yn golygu eich bod chi angen trallwysiad gwaed neu y bydd yn cynyddu'ch risg o waedu.  Os fyddwch chi’n sylwi ar gleisio neu waedu anarferol, diffyg anadl neu flinder difrifol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Rhwymedd:

Gall niraparib achosi rhwymedd. Mae'n bwysig bwyta digon o ffrwythau a llysiau, yfed 2-3 litr o hylifau y dydd, a bwyta diet ffibr uchel. Os byddwch yn datblygu rhwymedd, ewch at eich meddyg teulu i gael meddyginiaeth i helpu.

 

Anhawster cysgu

Efallai y byddwch yn cael trafferth cysgu. Rhowch gynnig ar dechnegau ymlacio i'ch helpu i gysgu, ond os nad yw hyn yn helpu, ewch at eich meddyg teulu i gael cyngor am gael cyffur tawelu gyda’r nos. 

 

Clotiau Gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hon ymhellach.    Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgîl-effeithiau a gwybodaeth eraill

Efallai y bydd rhai pobl yn cael problemau gyda chur pen a phendro.  Ceisiwch gymryd y cyffuriau lladd poen y byddech fel arfer yn eu cymryd am gur pen.  Os gwelwch nad yw cyffuriau lladd poen yn helpu neu os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch golwg, dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs.

 

Weithiau, ond dim yn aml iawn, mae nifer fach iawn o gleifion mewn perygl o gael lewcemia ac anhwylderau mêr esgyrn.  Bydd eich meddyg yn monitro eich gwaed ar gyfer hyn.

 

Anaml iawn y bydd pobl ar y driniaeth hon yn profi diffyg anadl. Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych broblem gyda’ch ysgyfaint yn barod. Os byddwch yn datblygu diffyg anadl, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth os yw hyn yn cychwyn yn sydyn, fel arall rhowch wybod i'ch ymgynghorydd.

 

Weithiau, ond dim yn aml iawn, bydd rhai pobl sy'n cael niraparib yn profi problemau'r galon fel poen yn y frest neu grychguriadau.  Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau triniaeth. 

 

Mae rhai cleifion yn profi diffyg traul a/neu boen yn rhan uchaf yr abdomen; os yw hyn yn achosi problemau i chi, ffoniwch Canolfan Ganser Felindre, a rhoi gwybod iddynt y tro nesaf y byddwch yn y clinig.

 

Gall niraparib gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul.  Mae'n well osgoi golau haul cryf, gwisgo het a defnyddio bloc haul.

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu yn dod yn dad wrth gael triniaeth neu am o leiaf 1 mis wedyn, oherwydd y gallai niraparib niweidio'r babi heb ei eni.  Mae'n bwysig defnyddio dulliau atal cenhedlu os ydych chi yn yr oedran i gael plant.  Nid ydym yn gwybod sut mae niraparib yn effeithio ar ffrwythlondeb.  Dylech drafod hyn gyda'ch tîm. Nid ydym yn argymell eich bod chi’n bwydo ar y fron.

 

 

Ydy’n iawn i mi gymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.

 

Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd.  Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi'n poeni am unrhyw sgîl-effeithiau.

 

             

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Rhifau ffôn cyswllt:

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Am gyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth

 

 

Fferyllfa              029 2061 5888 (est 6223)

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser

rhadffôn Tenovus                          0808 808 1010

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre, a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk.   Weithiau, gall cleifion gael trafferth yn darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu o fferyllfa Felindre.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Mae wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Tachwedd 2017

plain-english (3)