Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw enzalutamide. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a phryd a sut y caiff y driniaeth ei rhoi. Hefyd, bydd yn dweud wrthych am y sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu cael. Mae rhifau ffôn cyswllt wedi’u rhoi ar ddiwedd y daflen.
Beth yw enzalutamide?
Mae enzalutamide yn driniaeth hormonaidd newydd sy’n cael ei rhoi ar ffurf tabledi. Gall testosteron ysgogi twf canser y prostad. Mae triniaethau hormonaidd ar gyfer canser y prostad trwy ostwng lefelau testosteron.
Ar hyn o bryd, mae enzalutamide yn gyffur didrwydded. Byddwn yn esbonio hyn isod.
Pam rydw i’n cael enzalutamide?
Mae eich meddyg wedi rhoi’r therapi hwn ar bresgripsiwn i chi oherwydd darganfuwyd ei fod yn effeithiol mewn rhai cleifion sydd â chanser y prostad.
Mae enzalutamide yn gweithio mewn ffordd wahanol i driniaethau hormonaidd eraill sy’n cael eu rhoi ar gyfer canser y prostad. Gall gael ei defnyddio pan fydd triniaethau eraill wedi rhoi’r gorau i weithio.
Beth yw cyffur didrwydded?
Cyn bod meddygon yn gallu rhoi cyffur ar bresgripsiwn, mae angen trwydded arno. Mae cyffuriau wedi’u trwyddedu yn gyffuriau sydd â phrawf eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol. Ar hyn o bryd, nid yw enzalutamide wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig (DU) gan mai cyffur newydd ydyw. Nid yw wedi’i drwyddedu ar gyfer triniaeth canser yn y DU. Fodd bynnag, mae wedi cael trwydded i’w ddefnyddio yn UDA a gwnaed cais am drwydded yn y DU.
Gwnaed treialon clinigol i brofi diogelwch ac effeithiolrwydd enzalutamide. Mae eich ymgynghorydd yn fodlon bod enzalutamide yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yn cymryd cyfrifoldeb am eich monitro tra’ch bod chi’n cael y driniaeth hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, siaradwch â’ch ymgynghorydd.
Pa mor aml y byddaf i’n gweld y tîm arbenigol?
Cewch eich gweld unwaith y mis. Yn yr apwyntiadau hyn, byddwch yn cael profion gwaed a byddwn yn monitro eich pwysedd gwaed. Byddwn yn holi sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych. Gwnawn hyn fel ein bod yn gallu gwirio sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch chi.
Sut dylwn i gymryd y tabledi enzalutamide?
Dylai tabledi enzalutamide gael eu cymryd unwaith y dydd. Gall y tabledi gael eu cymryd unrhyw bryd tan tua 10pm, ond ceisiwch eu cymryd tua’r un amser bob dydd. Dylid llyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Peidiwch â’u cnoi na’u malu.
Faint o dabledi enzalutamide y bydd angen i mi eu cymryd?
Fel arfer, bydd 4 tabled yn cael eu cymryd unwaith y dydd ond, weithiau, gall eich meddyg newid y dos. Bydd faint y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei farcio’n glir ar y blwch.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n anghofio cymryd fy nhabledi?
Beth os byddaf i’n cymryd gormod o dabledi?
Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6. Gofynnwch am y galwr cemotherapi.
Sut dylwn i storio’r tabledi?
Dylai eich tabledi gael eu storio yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn man diogel, allan o gyrraedd plant. Dylent gael eu cadw mewn mân sych, lled oer (islaw 25oC).
Dylid dychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllydd lleol i’w gwaredu’n ddiogel.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae’r driniaeth hon yn cael ei goddef yn weddol dda fel arfer, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai sgîl-effeithiau posibl. Gall y meddygon, nyrsys a fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Blinder a lludded
Gall y driniaeth wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen i chi wneud, ond ewch ymlaen â’ch gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo’ch bod chi’n gallu gwneud. Mae gwneud ymarfer corff ysgafn o fudd i rai pobl, yn ogystal â gorffwys.
Pwysedd gwaed uchel
Gall y driniaeth hon achosi i bwysedd gwaed rhai cleifion godi. Byddwn yn mesur eich pwysedd gwaed cyn i chi ddechrau’ch triniaeth a bob tro y byddwch yn ymweld â’r clinig. Rhowch wybod i ni os ydych eisoes yn cael triniaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel. Os ydych wedi dioddef o bwysedd gwaed uchel yn y gorffennol ond mae’n cael ei rheoli’n dda, byddwch o hyd yn gallu cael y driniaeth hon.
Dolur rhydd
Efallai y cewch ddolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os ydych yn cael pedwar achos neu fwy o ymgarthu mewn 24 awr uwchlaw’r hyn sy’n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.
Gwybodaeth a sgîl-effeithiau eraill
Gall nifer fechan iawn o gleifion (llai nag 1%) ddatblygu ffitiau wrth gymryd enzalutamide. Mae’n bwysig i chi ddweud wrth eich meddyg os ydych erioed wedi cael ffit, neu’n cael triniaeth ar hyn o bryd ar gyfer ffitiau. Hefyd, dywedwch wrth eich meddyg os ydych wedi cael anaf i’r ymennydd o fewn y 12 mis diwethaf, neu os ydych erioed wedi cael tiwmor ar yr ymennydd neu strôc. Os ydych yn cael ffit, dylech roi’r gorau i gymryd enzalutamide a ffonio Canolfan Ganser Felindre.
Mae’n bwysig nad ydych yn cenhedlu plentyn pan fyddwch chi’n cael y driniaeth hon nac am 4 mis wedi hynny oherwydd gall enzalutamide wneud niwed i’r baban heb ei eni.
Gall rhai cleifion ddioddef pen tost/cur pen neu boenau yn y cymalau wrth gymryd enzalutamide. Fel arfer, gall y rhain gael eu trin gyda’r poenleddfwyr y byddech yn eu cymryd fel arfer.
Hefyd, gall rhai cleifion gael chwiwiau poeth.
Os oes gennych bryderon, trafodwch nhw gyda’ch nyrs arbenigol neu’r tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r clinig.
A yw popeth yn iawn i mi gymryd meddyginiaethau eraill?
Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd am yr holl feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd. Mae’r rhain yn cynnwys meddyginiaethau ar bresgripsiwn a meddyginiaethau, fitaminau neu feddyginiaethau llysieuol eraill. Mae nifer fechan o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi.
Rhifau ffôn cyswllt
Nyrsys Wroleg Arbenigol 029 2061 5888 est 6991
Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
I gael cyngor ar frys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y galwr cemotherapi
Adran y Fferyllfa 029 2061 5888 est 6223
Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaeth
Llinell gymorth am ddim
Tenovus 0808 808 1010
7 diwrnod yr wythnos, 8am – 8pm, ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.