Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin & capecitabine 373 a 608

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw carboplatin a capecitabine. Bydd yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am carboplatin a capecitabine ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi carboplatin a capecitabine?

Mae cemotherapi carboplatin a capecitabine yn cynnwys dau gyffur:

  • Carboplatin (sy’n cael ei roi trwy ddrip)
  • Capecitabine (sy’n cael ei roi fel tabledi)

Pam ydw i’n cael cemotherapi carboplatin a capecitabine?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

A fydd angen profion arnaf cyn cael y cemotherapi?

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn i chi ddechrau’r cemotherapi. Bydd un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wneud yn siwr a yw eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch carboplatin a capecitabine bob tair wythnos hyd at chwech chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Caiff drip cemotherapi carboplatin ei roi unwaith bob tair wythnos. Mae angen cymryd eich tabledi capecitabine ddwywaith y dydd am 14 diwrnod, gan ddechrau ar yr un diwrnod â’r carboplatin.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

I gael y driniaeth cemotherapi hon, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith yn ystod pob cylch tair wythnos. 

 Apwyntiad clinig i gleifion allanol – byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei ragnodi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddiwrnodau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi - byddwch yn treulio oddeutu awr yn un o’r mannau trin i achosion dydd. Caniatewch hyd at awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf.

Os rydych yn byw yn bell, efallai y bydd eich cemotherapi’n cael ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwech awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin, felly nid oes lle i fwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw mannau trin yn addas i blant ifanc. 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl eich brecwast a min nos ar ôl eich pryd nos. Dylech gymryd y tabledi o fewn 30 munud ar ôl gorffen eich pryd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Mae’n bwysig eich bod yn golchi’ch dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

Faint o dabledi sydd angen i mi eu cymryd?

Mae’n amrywio ar gyfer pob unigolyn. Mae’r tabledi ar gael mewn dau gryfder gwahanol, sydd maint gwahanol. Mae’r tabledi mwyaf yn 500mg a’r tabledi llai yn 150mg.  Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach. Bydd wedi cael ei farcio’n glir ar y blychau faint sydd angen i chi eu cymryd. Cofiwch wirio bob blwch i weld faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os rwy’n anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 2 awr i’r amser arferol, cymerwch nhw ar unwaith.
  • Os yw’n fwy na 2 awr, methwch y dos.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig, hyd yn oed os rydych wedi methu unrhyw ddosau, eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr amser penodol.  

Beth os rwy’n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Sut dylwn i storio fy nhabledi capecitabine?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol, mewn man diogel i ffwrdd o afael plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd tabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllfa leol, i’w gwaredu’n ddiogel.  

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn.  

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°C. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  

Dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith:

  • os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr;
  • os cewch eich deffro yn y nos â dolur rhydd.   

Dylech gysylltu â ni hefyd os rydych yn cael unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu’n agor eich perfedd yn amlach, sy’n para fwy na 3 diwrnod.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn, neu eich bod chi’n ei chael hi’n anodd bwyta ac yfed, dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur ar eich dwylo a’ch traed

Efallai y byddwch yn dioddef poen ysgafn, cochni a chwydd yn eich dwylo neu draed. Os yw hyn yn digwydd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio hufen neu eli heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os yw’ch dwylo neu draed yn mynd yn boenus.

Problemau’r galon

Yn anghyffredin iawn, mae rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn dioddef problemau’r galon.  Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar y galon neu’ch bod yn cymryd meddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg yn Felindre cyn i chi ddechrau eich triniaeth.  

Os rydych yn dioddef unrhyw boen yn eich brest, dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a cheisio sylw meddygol ar frys. Peidiwch â dechrau cymryd capecitabine eto hyd nes eich bod chi wedi siarad â’r tîm yn Felindre.

Adweithiau tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith tebyg i alergedd i carboplatin. Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n wrid, yn cosi, yn benysgafn, neu’n anhwylus yn gyffredinol wrth gymryd carboplatin. Gellir trin y rhain yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

Sgîl-effeithiau eraill 

Mae rhai cleifion yn dioddef llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig os yw hyn yn digwydd.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.  

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Gall cemotherapi carboplatin a capecitabine gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gallant fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch, os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr 
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn amlach na’r hyn sy’n arferol i chi sy’n para fwy na 3 diwrnod
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

7 diwrnod yr wythnos, 8am – 8pm, ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.