Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

12/05/23
Dolenni ac adnoddau defnyddiol i gefnogi'r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr:

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio ar adeiladu Rhwydwaith y Lluoedd Arfog o fewn ei gweithlu.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol i gefnogi’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr:

  • SSAFA – Elusen y Lluoedd Arfog – Mae cymorth yn cynnwys milwyr sy’n gwasanaethu a milwyr wrth gefn yn y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, y Fyddin Brydeinig a’r Awyrlu Brenhinol a’u teuluoedd, gan gynnwys unrhyw un sydd wedi cwblhau Gwasanaeth Cenedlaethol. Mae gan bawb hawl i gymorth gydol oes gan SSAFA, pa mor hir bynnag y maent wedi gwasanaethu.
     
  • Porth Cyn-filwyr - Gwybodaeth, cyngor a chymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd.
     
  • Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog - Cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ariannu newid gwirioneddol.
     
  • Cynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod Cyn-filwyr – Mae’r VCHA yn grŵp o ddarparwyr GIG – gan gynnwys Ymddiriedolaethau acíwt, iechyd meddwl, cymunedol ac ambiwlans – sydd wedi cytuno i fod yn esiamplau o’r gofal a’r gefnogaeth orau i gymuned y lluoedd arfog (boed yn Gwasanaethu, Cyn-filwyr, gwŷr/gwragedd priod neu ddibynyddion).
     
  • Step Into Health - Cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog i gael mynediad at y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y GIG.
     
  • Veterans UK - Cymorth am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd, gan gynnwys llinell gymorth, Gwasanaeth Lles Cyn-filwyr, Gwasanaethau Pontio’r Weinyddiaeth Amddiffyn a thaliadau cynllun iawndal anafiadau/profedigaeth.
     
  • GIG Cymru i Gyn-filwyr - Gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol.
     
  • Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr | LLYW.CYMRU - Canllawiau, gwasanaethau a chymorth i’r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
     
  • Adferiad Recovery - Gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a’r rhai sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac yn gymhleth.
     
  • Blesma - Yn cefnogi cyn-filwyr a gollodd aelodau o'r corff drwy gydol eu hoes.
     
  • Blind Veterans UK - Cefnogi unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sydd wedi gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol, ac sydd bellach yn byw gyda cholli golwg sylweddol.
     
  • Woody's Lodge - Man cyfarfod i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu'r Gwasanaethau Brys.