Mae’r Cyfamod yn addewid gwirfoddol gan sefydliadau unigol sydd yn dymuno arddangos eu cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog. Mae’r addewid yn cael ei wneud i aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr, ac mae’n cynnwys mynediad i wasanaethau a chyflogaeth.
Dyfarnwyd y cyfamod Efydd i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ym mis Ebrill 2019, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio tuag at gyflawni’r Lefel Arian. Mae copi o’r gydnabyddiaeth Efydd ar gael yma.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y Cyfamod ar Armed Forces Covenant website
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu, a chyn-filwyr, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r profiad ychwanegol a sgiliau trosglwyddadwy maen nhw’n eu datblygu trwy eu hyfforddiant yn y lluoedd arfog a’u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfynolrwydd a hunan hyder.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Bolisi ar gyfer Milwyr wrth Gefn, sy'n eich cefnogi i gyflawni unrhyw ofynion hyfforddiant. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ymfalchïo hefyd, yn y ffaith ei bod yn gyflogwr hyblyg, sy'n rhoi mynediad i Bolisi Gweithio Hyblyg.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol, yn amrywio o rolau rheoli gweinyddol/rheoli prosiectau, i rolau clinigol, gwyddonol a thechnegol yng Nghanolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. I gael gwybod mwy am wahanol adrannau o’n Hymddiriedolaeth, cliciwch yma. Gallwch weld rhestr o'n swyddi gwag presennol yn NHS Jobs