Daeth y Ddyletswydd Ansawdd i rym o 1 Ebrill 2023, ac mae ganddi ddau amcan:
Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i bopeth rydym yn ei wneud yn GIG Cymru, p'un a ydym yn gweithio mewn rolau clinigol neu anghlinigol.
Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau gwell ansawdd mewn gwasanaethau a chanlyniadau i'n poblogaeth.
Fel defnyddiwr gwasanaeth, does dim angen i chi wneud unrhyw beth ar gyfer y Ddyletswydd Ansawdd.
Mae'r Ddyletswydd yn cyflwyno Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd, sydd wedi'u datblygu i'n helpu i ymgorffori'r Ddyletswydd Ansawdd yn ein gwaith.
Mae'r safonau yn cynnwys chwe maes ansawdd a chwe galluogwr ansawdd. Maen nhw’n llywio ein hagwedd tuag at wneud penderfyniadau yn ein gwaith.
Rydym yn datblygu ein Systemau Rheoli Ansawdd gydag Ansawdd Cynllunio, Gwella Ansawdd, Sicrhau Ansawdd a Rheoli Ansawdd. Mae'r holl systemau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd dysgu.
Mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn cynnwys gofyniad i ni gyhoeddi gwybodaeth am ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu darparu a’u comisiynu ar eich rhan.
Rydym bob amser yn monitro ac yn adrodd ar sut rydym yn gwneud ar ein taith Ansawdd. Rydym yn rhoi gwybod am yr wybodaeth hon mewn sawl ffordd:
Mae mwy o wybodaeth am y Ddyletswydd Ansawdd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canllawiau statudol y mae'n rhaid i sefydliadau GIG Cymru eu dilyn.