Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre amcanion uchelgeisiol o ran yr amgylchedd a chynaliadwyedd er mwyn wella ein hamgylchedd lleol a naturiol, lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a gweithio gyda’n staff, defnyddwyr ein gwasanaeth a’r gymuned leol er mwyn gwella llesiant.
Nod yr Ymddiriedolaeth yw cofleidio cynaliadwyedd yn ei ystyr ehangaf, o leihau allyriadau carbon a’r defnydd ohono, i hybu’r celfyddydau ym maes iechyd a diwylliant. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod yr egwyddor hon yn cael ei gwreiddio ar draws yr Ymddiriedolaeth.