Neidio i'r prif gynnwy

Ein partneriaid

Ray of Light

Mae Ray of Light yn cydnabod ac yn deall yr ansicrwydd, yr ofn a'r newid a ddaw ar ôl cael diagnosis o ganser. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae dros 19,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser ond mae llawer mwy o bobl yn teimlo effaith y diagnosis hwn.

Mae tîm Ray of Light yn darparu lle cyfrinachol, diogel ac anfeirniadol i roi cymorth i bobl sy’n wynebu canser a diagnosis eu hanwyliaid, wrth iddynt geisio ymdopi â bywyd teuluol bob dydd. I lawer o bobl, mae’r cymorth hwn yn gallu bod yn achubiaeth.

 

Down to Earth

Yn syml, mae Down to Earth yn credu bod profiadau ystyrlon yn yr awyr agored gyda pherthnasoedd wrth eu craidd yn gallu newid bywydau.

Mae Down to Earth yn gwneud hyn trwy ddulliau arloesol a chynhwysol, fel creu adeiladau anhygoel gyda deunyddiau naturiol, rheoli tir yn gynaliadwy a rhaglenni lles ac addysg arobryn, a hynny o ganolfannau sydd wedi eu hadeiladu â llaw ym Mhenrhyn Gŵyr ac ar draws de Cymru.