Rydym yn ymwybodol nad yw'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad i fformat arall, cysylltwch â velindre.communications@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd yma.
Fel aelod o'r cyhoedd, gallwch fynychu'r cyfarfod fel gwyliwr. Mae hynny'n golygu y gallwch weld a chlywed y drafodaeth, ond ni fyddwch yn gallu cymryd rhan ynddo.
Cewch gofrestru eich diddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r cyfarfodydd trwy glicio ar y ddolen Zoom ger dyddiad y cyfarfod isod. Bydd hon ar gael 10 diwrnod cyn y cyfarfod.
Rydym yn bwriadu darparu recordiad fideo o'r cyfarfod, a fydd ar gael ar y wefan yn fuan wedyn. Am y rheswm hwnnw, rydym yn gofyn ichi beidio â recordio’r cyfarfod eich hun.