Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro. Andrew Westwell

Aelod Annibynnol - Prifysgol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Prifysgol

Cymhwysodd yr Athro Andrew Westwell mewn cemeg ym Mhrifysgol Leeds, lle enillodd ei radd PhD mewn synthesis cemegol ym 1994. Yn dilyn ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Loughborough, daeth yn uwch gymrawd ymchwil yn yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham.  Mae wedi cynnal ymchwil i gyffuriau canser cyn-glinigol, sydd wedi arwain at ddarganfod cyffuriau clinigol newydd.

Yn 2006, symudodd Andrew i weithio mewn swydd Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Fferylliaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddod yn Athro Cemeg Feddyginiaethol yn 2016. Mae wedi parhau i weithio i geisio darganfod cyffuriau gwrth-ganser newydd sy'n targedu ymwrthedd i afiechydon ac afiechydon datblygiedig. Mae gwaith cydweithredol diweddar Andrew wedi arwain at y cyffur datblygedig newydd Bcl3, ac mae gwaith yn parhau i symud y prosiect hwn ymlaen i dreialon cleifion cyntaf sy'n targedu ymwrthedd i ganser y colon a'r rhefr a chanser y fron metastatig. Nod prosiectau ymchwil cysylltiedig eraill yw datblygu moleciwlau delweddu diagnostig canser newydd.

Mae rolau eraill Andrew wedi cynnwys bod yn Drysorydd ar gyfer Cymdeithas Ymchwil Canser Prydain (2004-2010), ac yn fwyaf diweddar, yn Ddeon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd (2018-2021). Ar hyn o bryd, mae hefyd yn gwasanaethu ar bwyllgor gwyddonol Prostate Cancer UK, ac mae’n cadeirio Bwrdd y Rhaglen ar gyfer prosiect seicoweithredol newydd WEDINOS ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod ei yrfa academaidd, mae wedi bod yn awdur/cyd-awdur >150 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion gwyddonol rhyngwladol.