Aelod annibynnol - Ansawdd a diogelwch
Aelod annibynnol - Ansawdd a diogelwch
Mae Vicky wedi bod yn nyrs gofrestredig ers dros 34 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi wedi gweithio ar lefel Bwrdd mewn rolau Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio / Prif Nyrs am 18 mlynedd tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Yn ogystal â’i rôl fel Aelod Annibynnol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ar hyn o bryd, mae Vicky yn gweithio fel darlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol Caerwrangon.
Ar ymddeoliad Vicky o'i gyrfa Weithredol, dyfarnwyd gwobr Aur y CNO iddi gan Ruth May (Prif Swyddog Nyrsio yn Lloegr) am ei chyfraniad i Welliannau Ansawdd mewn gofal cleifion a delwedd Nyrsio.
Mae Vicky yn byw yng nghanolbarth Cymru, ac yn briod â ffermwr gyda dau o blant sydd wedi tyfu i fyny.