Neidio i'r prif gynnwy
Lindsay Foyster

Aelod Annibynnol - Amrywiaeth a Chynhwysiant

Amdanaf i

Aelod Annibynnol - Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae gan Lindsay brofiad arweinyddiaeth strategol uwch ar lefel bwrdd fel cyfarwyddwr gweithredol ac anweithredol yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Roedd Lindsay yn Gadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru rhwng 2020 a 2023, ar ôl bod yn aelod anweithredol o’r Bwrdd yno ers 2015. Ar hyn o bryd, mae hi’n Aelod Lleyg o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae hi wedi cael gyrfa ddisglair yn y sector elusennol yng Nghymru, ac wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Mind Cymru rhwng 1995 a 2014, ar ôl gweithio ym maes datblygu iechyd meddwl a gwaith cymorth cyn hynny.

Bu Lindsay yn gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol am nifer o flynyddoedd hefyd, gan gynnwys fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd, yn ogystal â gwasanaethu am gyfnod byr fel Cynghorydd Cymuned lleol.

Mae gan Lindsay brofiad helaeth mewn cydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth ac arfer cynhwysol a diwylliannau sefydliadol, ac mae hi’n angerddol amdanynt. Mae hi wedi gweithio fel Arweinydd Amrywiaeth Corfforaethol ar gyfer Mind, ac fel Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Bwrdd Anweithredol yn Archwilio Cymru.

Yn ei hamser hamdden, mae Lindsay yn gwirfoddoli fel un o’r Ymatebwyr Lles Cymunedol cyntaf gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer ei chymunedau lleol yn ardal Caerffili a Chasnewydd.