Neidio i'r prif gynnwy
Hilary Jones

Aelod annibynnol - Ystadau a chynllunio

Amdanaf i

Aelod annibynnol - Ystadau a chynllunio

Hilary Jones yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin. Mae hi'n siaradwr Cymraeg rhugl, a graddiodd gyda BSc (Anrh) mewn Arolygu Adeiladu.

Mae hi wedi treulio bron i 30 mlynedd yn gweithio yn y Sector Tai Cymdeithasol mewn Rolau Datblygu a Chynnal a Chadw. Mae hi wedi dal sawl swydd uwch ac wedi negodi a rheoli cynlluniau PFI a PPP mawr ochr yn ochr â rhaglenni mawr sy'n darparu tai cymdeithasol a thai â chymorth ledled Cymru.

Ar hyn o bryd mae Hilary yn Gadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n Gadeirydd Pwyllgor Personél a Chydnabyddiaeth Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru.

Yn ei hamser hamdden, mae Hilary yn mwynhau teithio, cerdded a chroesawu gwesteion i fythynnod gwyliau y mae'n berchen arnynt gyda'i gŵr.