Mae Felindre yn ymdrechu'n barhaus i wella gofal cleifion canser gyda'n hymchwil arloesol sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae aros ar flaen y gad o ran triniaethau a thechnolegau arloesol yn golygu bod ein cleifion yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn therapïau, a ddarperir gan ymchwilwyr arbenigol.
Rydym yn cynnal ac yn noddi cymysgedd o astudiaethau masnachol ac anfasnachol ar draws ystod amrywiol o feysydd ymchwil. Mae ein portffolio ymchwil yn cynnwys treialon clinigol canser yn ogystal ag astudiaethau ymchwil gofal lliniarol a chefnogol, radiotherapi a gofal iechyd.
Mae'r tîm Ymchwil a Datblygu yn Felindre yn cefnogi datblygiad prosiectau ymchwil o ansawdd uchel ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u rheoli i safon wyddonol a moesegol uchel.
Mae manteision ymchwil i'n cleifion yn mynd y tu hwnt i bobl sy'n byw gyda chanser ar hyn o bryd. Mae ein hymchwil yn datblygu gwybodaeth arbenigol sydd yn ei thro yn sbarduno triniaethau newydd, gan wneud gwahaniaeth i ofal canser y dyfodol i bobl Cymru a ledled y byd.