Mae gan Felindre enw da am ragoriaeth mewn ymchwil canser, yn y DU ac o gwmpas y byd. Mae aros ar flaen y gad o ran triniaethau a thechnolegau arloesol yn golygu bod ein cleifion yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn therapïau, a ddarperir gan ymchwilwyr arbenigol.
Rydym yn cynnal treialon ac astudiaethau sy'n mesur effeithiolrwydd cyffuriau a dulliau triniaeth fel radiotherapi. Rydym yn cyflwyno treialon cyntaf mewn bodau dynol a threialon sy'n defnyddio meddyginiaethau wedi'u personoli wedi'u teilwra i ganser pob claf unigol.
Ein nod yw galluogi ein holl gleifion i fod yn rhan o lawer o fathau o ymchwil, o dreialon clinigol ar driniaethau newydd, gan gynnwys imiwnotherapïau arloesol, therapi genynnau, brechlynnau canser a chyffuriau o'r radd flaenaf, i astudiaethau radiotherapi a'r cyfle i roi eu samplau i Fanc Bio Canser Cymru .
Dyma rai o'r gwahanol fathau o astudiaethau ymchwil sy'n digwydd yn Felindre.
Mae treialon clinigol yn ymchwil sy'n cynnwys pobl yn asesu diogelwch, effeithiolrwydd a manteision posibl triniaeth neu ofal newydd.
Gallai hyn gynnwys treialu cyffur newydd neu gyfuniad o gyffuriau, dyfais feddygol, brechlyn, prawf diagnostig, neu weithdrefn driniaeth. Mae treialon clinigol yn mesur pethau fel pa mor dda y mae triniaeth newydd yn gweithio, os oes ganddi unrhyw sgîl-effeithiau ac os yw'n gweithio'n well na thriniaeth neu weithdrefn a ddefnyddir ar hyn o bryd, gan helpu pobl i deimlo'n well.
Dysgwch fwy am dreialon clinigol yn Felindre
Yr enw ar pob cyffur i drin canser, fel cemotherapi ac imiwnotherapi, yw therapi systemig gwrth-ganser. Mae'r rhan fwyaf o'r treialon hyn yn rhai ar hap ar eu cyfnod hwyr (Cam 2b a Cham 3), lle mae cyfuniadau newydd o gyffuriau yn cael eu cymharu â'r safon presennol o ofal. Fodd bynnag, ers 2013 rydym hefyd wedi datblygu galluedd cyfnod cynnar lle mae cyffuriau sydd ar gam cynharach o lawer o ran eu datblygu'n cael eu profi am ddiogelwch ac arwyddion cynnar o weithgarwch. Yn aml, mae'r treialon hyn at ddibenion cleifion sydd wedi ceisio pob opsiwn safonol ac felly maent yn darparu rhagor o opsiynau.
Mae ein hymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:
Yn aml, mae triniaeth i bobl â chanser yn cynnwys radiotherapi ac yn Felindre mae gennym dîm ymchwil radiotherapi ymroddedig sy'n edrych ar ffyrdd o wella triniaeth a'r sgîl-effeithiau cysylltiedig.
Mae ein hymchwil radiotherapi yn cynnwys:
Mae gennym gymrodyr ymchwil (meddygon) yn ein tîm gofal lliniarol a chefnogol sy'n canolbwyntio ar wella triniaeth a gofal cleifion ar ddiwedd eu hoes.
Mae ein hymchwil yn cynnwys:
Rydym yn annog pawb yn Felindre i ymgymryd ag ymchwil ac mae hyn yn cynnwys ein nyrsys, therapyddion, fferyllwyr a mwy. Trwy gefnogaeth elusen Codi Arian Canolfan Ganser Felindre rydym yn ariannu gweithwyr iechyd proffesiynol o'r grwpiau galwedigaeth hyn yn rheolaidd i gynnal eu hymchwil eu hunain i driniaeth a chefnogaeth cleifion â chanser.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r ymchwil hon gan weithwyr proffesiynol iechyd cynghreiriol wedi ymdrin â materion fel: