Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil ac Arloesi

Mae ymchwil ac arloesi yn helpu i wella iechyd y cyhoedd a gwybodaeth sy'n gwella gofal cleifion, yn ogystal â datblygu triniaethau yn y GIG a gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwasanaethau eang, sy'n aml yn gymhleth ac yn arbenigol iawn, ei thechnoleg o'r radd flaenaf, ei staff clinigol ac anghlinigol medrus iawn a'i hymchwil arloesol.

Mae ein portffolio yn cynnwys gofal rhoddwyr gwaed, meddygaeth trallwysiadau a thrawsblannu, treialon clinigol canser, astudiaethau gofal lliniarol a chefnogol ac ymchwil ac arloesedd mewn gofal iechyd.