Neidio i'r prif gynnwy

Y broses yn dechrau i ddod o hyd i gontractwyr i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd

Northern Meadows Aerial view

Mae’r broses wedi dechrau i ddod o hyd i gontractwyr i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd, sy’n darparu gwasanaethau canser anlawfeddygol arbenigol i bobl ar draws De Ddwyrain Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn chwilio am gonsortiwm i ddylunio, adeiladu, ariannu a rhedeg y ganolfan ganser newydd.

Rydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw i hysbysu’r farchnad (Saesneg unig).
Mae’r hysbysiad wedi cael ei gyhoeddi ar ôl i Felindre ac Asda weithio gyda’i gilydd i greu cynlluniau ar gyfer mynedfa i’r ganolfan, gan ddarparu gwell llif traffig a mynediad hawdd o amgylch yr ardal. Bydd pobl yn gallu cael mynediad i’r ganolfan ganser newydd, neu ei gadael, drwy lwybr newydd.

TCS sky view layout Disgwylir i’r broses gaffael lawn gymryd dwy flynedd. Mae’r contract werth £180 miliwn + TAW.

Mae’r ganolfan newydd, sydd wedi’i lleoli i’r gogledd o hen Ysbyty’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, i fod i agor yn 2024. Bydd y ganolfan yn gallu derbyn 8,500 o gleifion newydd a 160,000 o apwyntiadau cleifion y flwyddyn – sy’n gynnydd o 2000 a 20,000 o’i gymharu â’r lefelau presennol. Mae’n rhan o gynllun i gynyddu capasiti ar draws De Ddwyrain Cymru.

David Powell Dywedodd David Powell, Cyfarwyddwr prosiect newydd Canolfan Ganser Felindre, “Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd â chanser neu rywun sydd wedi cael canser, ac mae nifer y bobl sy’n cael eu diagnosio gyda chanser yn cynyddu. Ond mae gan Gymru rai o’r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd gorllewinol.

“Does gan y Ganolfan Ganser Felindre bresennol, sy’n 60 oed, ddim y cyfleusterau na’r gofod i ateb yr her hon yn y dyfodol. Felly, rydym eisiau adeiladu canolfan newydd.

“Bydd y ganolfan newydd yn trin mwy o gleifion ac yn helpu mwy o bobl i fyw’n hirach gyda chanser.

“Bydd yn cefnogi ymchwil a datblygu rhyngwladol hefyd, gyda’r nod o wneud Cymru yn arweinydd ym maes trin canser.”

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael cymeradwyaeth ar gyfer ein hachosion busnes ar gyfer y ganolfan newydd, ac i gael mynediad iddi.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y ganolfan ganser newydd yn barod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething “Mae gwella gofal canser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweld cyfraddau goroesi yn gwella. Mae amseroedd diagnosis a thriniaeth yn gwella hefyd. Rydym wedi gweld cynnydd o 6.8 y cant yn y cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser dros y deng mlynedd rhwng 2002-2006 a 2012-2016, ac rydym eisiau i hynny wella hyd yn oed yn fwy. Mae’n bwysig iawn bod gennym gyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer darparu gofal, felly rwy’n falch bod cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser Felindre wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn sgil y cyhoeddiad hwn. ”

Mae sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd, fel bod cleifion yn derbyn gwasanaeth llyfn, o’r diagnosis i’r driniaeth, dim ots pa Fwrdd Iechyd maen nhw’n byw ynddo. Mae hyn yn cynnwys Meddygon Teulu a darparwyr gofal sylfaenol eraill, yn ogystal â byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau arbenigol fel Felindre.

Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Gallwch weld yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar wefan Sell2Wales.
Er mwyn cefnogi’r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw, rydym wedi cyhoeddi Crynodeb o’r Prosiect, a Memorandwm Gwybodaeth (Saesneg unig).

Model Buddsoddi Cydfuddiannol
Bydd Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ganolfan newydd.

Mae’r Model Buddsoddi
Cydfuddiannol yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio ei dylanwad er mwyn diogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.