Neidio i'r prif gynnwy

Sut y dylai'r Ganolfan Ganser Felindre newydd gael ei dylunio i weithio i chi?

Rydym yn chwilio am farnau pobl ar ddyluniad y Ganolfan Ganser Felindre newydd.

I helpu i ysgogi sylwadau a barnau, rydym wedi cyhoeddi Brîff Dylunio drafft (Saesneg unig) – sef dogfen y byddwn yn ei defnyddio i roi gwybod i benseiri am y pethau sydd eu hangen arnom ni.

Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro o gwmpas deg gofyniad:

Cadarnrwydd – adeilad sy’n gryf ac sy’n para’n hir

  • Gwydn
  • Gwyrdd
  • Ymarferol

Ymarferoldeb – adeilad sy’n gweithredu’n dda fel cannolfan ganser

  • Effeithiol
  • Hyblyg
  • Digidol
  • Velindre Way

Pleser – adeilad sy’n gwneud i bobl deimlo’n dda

  • Cleifion
  • Staff
  • Y Cyhoedd

Mae’r Brîff Dylunio hwn yn disgrifio pob un o’r deg gofyniad yn fwy manwl. Maen nhw’n darparu’r sail ar gyfer gwerthuso’r dyluniadau a gyflwynir gan dimau datblygu sy’n cystadlu â’i gilydd.

Wellbeing pie chart image

Meddai Stephen Gardiner, Cyfarwyddwr Prosiect Cynorthwyol (Seilwaith) yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Ein gweledigaeth ydy adeiladu Canolfan Ganser Felindre sydd â’r cryfder i bara am y tymor hir, sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau canser yn y dyfodol, ac sy’n rhagori ar ddisgwyliadau cenedlaethau’r dyfodol sy’n ei defnyddio.

“Mae’n rhaid i’r adeilad weithio i’n cleifion a hefyd, i’n staff, ein cymdogion ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol.

Yn sail i’r Briff Dylunio – ac yn wir, i bopeth a wnawn – ydy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r adeilad newydd gyfrannu at y saith nod a nodir yn y Ddeddf, ac rydym yn disgwyl iddo gael ei ddylunio, ei adeiladu a’i redeg yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy – y pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn y Ddeddf.

Os oes gennych sylwadau am y Brîff Dylunio, anfonwch e-bost atom ni yn Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk.