Rydym yn chwilio am farnau pobl ar ddyluniad y Ganolfan Ganser Felindre newydd.
I helpu i ysgogi sylwadau a barnau, rydym wedi cyhoeddi Brîff Dylunio drafft (Saesneg unig) – sef dogfen y byddwn yn ei defnyddio i roi gwybod i benseiri am y pethau sydd eu hangen arnom ni.
Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro o gwmpas deg gofyniad:
Cadarnrwydd – adeilad sy’n gryf ac sy’n para’n hir
Ymarferoldeb – adeilad sy’n gweithredu’n dda fel cannolfan ganser
Pleser – adeilad sy’n gwneud i bobl deimlo’n dda
Mae’r Brîff Dylunio hwn yn disgrifio pob un o’r deg gofyniad yn fwy manwl. Maen nhw’n darparu’r sail ar gyfer gwerthuso’r dyluniadau a gyflwynir gan dimau datblygu sy’n cystadlu â’i gilydd.
Meddai Stephen Gardiner, Cyfarwyddwr Prosiect Cynorthwyol (Seilwaith) yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Ein gweledigaeth ydy adeiladu Canolfan Ganser Felindre sydd â’r cryfder i bara am y tymor hir, sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau canser yn y dyfodol, ac sy’n rhagori ar ddisgwyliadau cenedlaethau’r dyfodol sy’n ei defnyddio.
“Mae’n rhaid i’r adeilad weithio i’n cleifion a hefyd, i’n staff, ein cymdogion ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol.
Yn sail i’r Briff Dylunio – ac yn wir, i bopeth a wnawn – ydy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r adeilad newydd gyfrannu at y saith nod a nodir yn y Ddeddf, ac rydym yn disgwyl iddo gael ei ddylunio, ei adeiladu a’i redeg yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy – y pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn y Ddeddf.
Os oes gennych sylwadau am y Brîff Dylunio, anfonwch e-bost atom ni yn Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk.