Neidio i'r prif gynnwy

Gorchymyn ar Gyfer Gwaharddeb Dros Dro a Roddwyd Gan yr Uchel Llys

Heddiw, rhoddodd yr Uchel Lys Orchymyn i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar gyfer Gwaharddeb Dros Dro. Gweler y ddolen i'r Gorchymyn Wedi'i Selio o gwrandawiad ddoe yma.

Mae'r Waharddeb yn gwahardd y Diffynyddion a enwir neu a nodir yn y Gorchymyn, sy'n cynnwys "personau anhysbys" – hynny yw, unrhyw un – rhag cymryd rhan mewn gweithredu uniongyrchol o fewn y Tir a bennir yn y Gorchymyn. Diffinnir ‘direct action’ sef gweithredu uniongyrchol yn llawn yn y Gorchymyn ond mae'n golygu unrhyw un sy'n cymryd camau penodol yn anghyfreithlon i darfu ar y Gwaith. 

Bydd y Gorchymyn Gwaharddeb Dros Dro yn parhau, yn amodol ar yr Ymddiriedolaeth yn derbyn Gorchymyn Gwaharddeb Terfynol, mewn achos a bennwyd ar gyfer dechrau mis Ebrill. Os caiff ei chymeradwyo bryd hynny, bydd y Waharddeb yn cael ei hymestyn drwy gydol y cyfnod adeiladu tan 2025.

Mae'r Tir y mae'r waharddeb dros dro yn gymwys iddo wedi'i farcio yn y map yma mewn glas. Diffinnir ‘Works’ hefyd yn y Gorchymyn. 

Rydym am sicrhau bod pawb yn deall cwmpas y waharddeb. Yn bwysicaf oll, rydym am sicrhau ein cymuned leol na fydd y waharddeb yn effeithio ar eu bywyd beunyddiol yn yr ardal o gwbl, gan gynnwys y gallu i brotestio'n heddychlon. Dim ond y sawl sy'n cymryd rhan mewn gweithredu uniongyrchol anghyfreithlon a gaiff eu heffeithio.

Diweddariad pellach – 03/08/2022

Yn dilyn yr Uchel Lys yn rhoi Gorchymyn am waharddeb terfynol i’r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill, hoffem gadarnhau'r sefyllfa ynghylch unrhyw doriadau posib o'r waharddeb hon. Byddai unrhyw un sy'n torri'r waharddeb yn destun penderfyniad gan yr Uchel Lys ar sancsiynau. Yn ogystal, gall y rhai sy'n cymryd camau uniongyrchol anghyfreithlon a ganfuwyd mewn dirmyg llys hefyd gael eu gorfodi i ad-dalu costau eu hachos.

Unwaith eto, hoffem sicrhau ein cymuned leol na fydd y waharddeb yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd yn yr ardal o gwbl, gan gynnwys y gallu i brotestio'n heddychlon. Mae’r waharddeb ond yn berthnasol i’r rhai sy'n cymryd camau uniongyrchol anghyfreithlon.

Diweddariad pellach – 25/04/2022

Cyn i'r gwrandawiad gael ei bennu am 10:30am ar 26 Ebrill 2022 yn yr achos uchod, mae'r Hawlydd wedi ffeilio gyda'r rhestrau costau llys ar 22 Ebrill 2022. Mae'r atodlenni hyn yn manylu ar y costau a hawliwyd gan yr Ymddiriedolaeth, a ysgwyddwyd yn yr achosion uchod, gan gynnwys paratoi ar gyfer gwrandawiadau'r Llys ar 21 Ionawr, 27 Ionawr a 26 Ebrill 2022. Bwriedir i'r atodlenni amgaeedig hysbysu'r Diffynyddion a'r Llys am y costau hyn, fel sy'n ofynnol gan Baragraff 9.5(4) o Gyfarwyddyd Ymarfer 44 o'r Rheolau Gweithdrefn Sifil. Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau perthnasol o dan ffolder 10 isod.

Diweddariad pellach – 21/04/2022

21 Ebrill 2022 Ar 21 Ebrill, ffeiliodd yr Hawlydd ei Fraslun o Ddadl gyda'r Llys. Mae'r Hawlydd hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth bellach i gefnogi ei hawliad. Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau perthnasol o dan ffolder 9 isod.

 

Yn dilyn yr Uchel Lys yn rhoi gwaharddeb dros dro ar 28 Ionawr 2022, mae'r Llys wedi gwneud gorchymyn pellach mewn perthynas â chyfarwyddiadau rheoli achosion ac wedi cyhoeddi Hysbysiad o Dreial. Mae'r Gorchymyn Gwaharddeb Dros Dro a wnaed gan yr Uchel Lys ar 28 Ionawr 2022 fel arall yn parhau i fod mewn grym.

Cliciwch yma am ddogfennau.