Mae partneriaeth gyffrous rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a chanolfan Technocamps Prifysgol Caerdydd yn defnyddio hapchwarae i gynnwys plant a phobl ifanc de ddwyrain Cymru yn y gwaith o ddylunio canolfan ganser newydd yr Ymddiriedolaeth.
Mae byd pwrpasol anhygoel Minecraft sy'n cwmpasu'r safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi cael ei adeiladu gan lysgenhadon STEM Technocamps Prifysgol Caerdydd. Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gallu archwilio'r safle ac adeiladu canolfan ganser Minecraft, sy’n cynnwys cyntedd mynedfa ar y tiroedd sydd wedi cael eu neilltuo i'r adeilad newydd. Gallant gynnig syniadau ar gyfer y gofod cymunedol ar y safle hefyd.
Mae'r gystadleuaeth ar agor i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 18 oed, ac mae'n rhedeg tan 28 Mehefin; mae’n cynnig y cyfle i'r rheiny sy'n cymryd rhan i archwilio safle'r dolydd ac nid yn unig adeiladu tu allan i'r ysbyty newydd a'i chyntedd mynedfa ond hefyd, cynnig eu syniadau ar gyfer yr hyn y gellir ei gynnwys yn y gofod cymunedol.
Bydd y byd pwrpasol yn cynnwys cymeriadau sydd ddim yn chwarae a byrddau duon, a fydd yn rhoi gwybodaeth bwysig ynghylch y safle a’r gofynion dylunio i fyfyrwyr, sy’n cynnwys cadw’r ysbyty o fewn 40% o’r safle. Bydd y byrddau duon yn rhannu ystadegau ynghylch canser hefyd, er enghraifft, y bydd 230,000 o bobl yn byw gyda chanser yng Nghymru erbyn 2030, i addysgu pobl ifanc am sut mae canser yn gallu effeithio ar fywydau pobl eraill.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnig y cyfle i’r myfyrwyr sy’n cyrraedd y rhestr fer i ddod yn llysgenhadon dylunio ieuenctid o fewn y prosiect ysbyty newydd, fel y gallant ychwanegu eu llais at y broses dylunio dros y flwyddyn nesaf.
Meddai Carl James, Cyfarwyddwr Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, "Rydym yn edrych ymlaen at lansio'r gystadleuaeth Minecraft for Education hon, a gweld syniadau plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth. Bydd eu mewnbwn yn chwarae rôl ddylanwadol wrth ddylunio’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.
"Fel Ymddiriedolaeth, mae cael barn pobl ifanc yn bwysig er mwyn ein helpu i ddeall yn well sut y gallwn weithio gyda phobl i wella iechyd, lles a gwasanaethau iechyd. Mae’r prosiect Minecraft yn gyffrous, gan y bydd yn ein cynorthwyo i gynllunio canolfan ganser a fydd yn cymharu'n ffafriol â chanolfannau eraill ar draws y byd a hefyd, ein helpu i ddysgu ac addysgu am fyw'n iach'.
"Bydd y bydoedd Minecraft rydym yn eu derbyn yn cael eu hadolygu a'u rhoi ar y rhestr fer cyn cael eu bwydo mewn i'r broses ddeialog gystadleuol a fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf. Bydd disgyblion a myfyrwyr sy'n cyflwyno syniadau rhagorol yn cael cynnig y cyfle i ymuno â'r tîm fel llysgenhadon dylunio ieuenctid, a byddant yn cael eu gwahodd i rannu rhagor o’u syniadau a'u safbwyntiau ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd a defnydd y gymuned o’r cyfleusterau gyda'r Ymddiriedolaeth, penseiri ac amrywiaeth o bobl eraill sy'n ymwneud â'r gwaith."
Meddai Dr Catherine Teehan, arweinydd academaidd Technocamps Caerdydd, "Roedd gennym ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect gan ein bod yn sylweddoli y gellid defnyddio Minecraft for Education i addysgu ac ymgysylltu’r gymuned gyda gwasanaethau gofal canser yng Nghymru.
"Mae Minecraft for Education yn adnodd pwerus i annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu â thechnoleg mewn ffordd ysbrydoledig, ac i rannu eu syniadau."
Fel rhan o'r gystadleuaeth, bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd dan sylw yn derbyn llyfr gwaith rhyngweithiol ac addysgol i fyfyrwyr hefyd, yn ychwanegol at y byd Minecraft. Bydd y llyfr gwaith yn cynnwys gwybodaeth am fioamrywiaeth, cymuned ac eco-adeiladau.
Datblygwyd y byd pwrpasol gan lysgenhadon STEM Technocamps, sy’n cynnwys Laura Choy, a ychwanegodd, "Roedd Minecraft yn gêm y treuliais lawer o amser yn ei chwarae pan oeddwn yn fy arddegau, ac rwy'n gyfarwydd iawn gyda beth mae'n gallu ei wneud. Pan gysylltodd Felindre â'n sefydliad i ddefnyddio Minecraft fel pecyn addysgol, cefais fy newis i fod yn rheolwr y prosiect ac i
"Cawsom ddiagram topolegol o'r ardal a llwyddais i’w fformatio fel ein bod ni’n gallu ei droi'n fodel 3D yn Minecraft. Yna, fe wnaethom drefnu pum tîm o lysgenhadon i helpu i adeiladu'r byd o'r tir i fyny. Roedd y byd gwreiddiol yn arwyneb gwastad, felly cafodd popeth yn y byd ei greu neu ei osod gan rywun oedd yn gweithio ar y prosiect. Yn gyffredinol, cymerodd tua dau fis, gyda llysgenhadon myfyrwyr yn gweithio cyfanswm cyfartalog o 10 awr y dydd i gwblhau'r byd."
Bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn annibynnol, ond bydd y gystadleuaeth
ar agor i dimau ystafell ddosbarth i fynd i mewn i'w byd(oedd) hefyd.
Gall athrawon a myfyrwyr gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth a chael rhagor o wybodaeth drwy fynd I https://felindre.gig.cymru/trawsnewid-gwasanaethau-canser/cystadleuaeth-minecraft-canolfan-ganser-felindre-newydd/