Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein gwaith ar Heol y Parc wedi cael ei ohirio

Oherwydd y disgwyl am law trwm dros y penwythnos, mae ein gwaith ar Heol y Parc wedi cael ei ohirio.

Bydd y glaw trwm yn golygu na fydd yn bosibl i ni gynnal y gwaith hanfodol i osod yr arwyneb newydd ar y ffordd.

Mae rhybudd o dywydd garw dros Gymru gyfan ddydd Sul ac mae disgwyl glaw trwm mewn llawer o rannau o Gaerdydd.

Mae hyn yn golygu na fydd y ffyrdd yn cau mwyach rhwng 18 a 20 Rhagfyr. Rydym yn gweithio i drefnu dyddiadau newydd a byddwn yn rhoi’r diweddaraf i bawb cyn gynted â phosibl.

Bydd y system bresennol o reoli traffig yn parhau tan ganol yr wythnos nesaf wrth i ni gynnal gwaith adfer er mwyn ailagor y ffordd am gyfnod dros dro dros y Nadolig. Bydd un groesfan dros dro i gerddwyr a goleuadau dwyffordd ar Heol y Parc dros y Nadolig, a than y dyddiad newydd ar gyfer cau’r ffordd.

Rydym yn cydnabod yr amharu y gall hyn ei achosi ac yn deall eich rhwystredigaeth.

Os oes rhagor o gwestiynau gennych, e-bostiwch Contact.Velindre@wales.nhs.uk.

Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd.