Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch i lunio dyfodol Canolfan Ganser Felindre

Yn Felindre, rydym yn gweithio'n galed i ailddiffinio a gwella'r amgylchedd ar gyfer y rheini rydym yn gofalu amdanynt. Fel rhan o'r ymdrech hon, rydym yn cynnal rhywfaint o ymchwil i ddeall yn well sut y gallwn wneud y gorau o ddyluniad mewnol Canolfan Ganser bresennol Felindre, ac i gasglu gwybodaeth ynghylch sut i ddatblygu ein canolfan ganser newydd.

Drwy gymryd rhan yn ein harolwg cyflym, gallwch fod yn rhan o'r broses hon, a helpu i lunio dyfodol ein canolfan. Bydd eich adborth gwerthfawr yn helpu i ddylanwadu ar sut rydym yn creu lleoedd sy'n gysurus ac yn gefnogol i bawb y mae canser yn effeithio arnynt.

Cliciwch ar y ddolen isod i gymryd rhan yn yr arolwg. Diolch i chi am eich cymorth!

https://bit.ly/3wyKJza