Neidio i'r prif gynnwy

Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi ennill gwobr ddylunio fawreddog

Mae’n bleser gennym rannu'r newyddion bod y Ganolfan Ganser Felindre newydd wedi ennill gwobr ddylunio fawreddog. Enillodd ein canolfan ganser newydd yr anrhydedd yng nghategori Dylunio Gofal Iechyd y Dyfodol yng Ngwobrau mawreddog Dylunio Gofal Iechyd Ewrop 2023 nos Fawrth.

Mae'r gwobrau yn un o'r rhai mwyaf mawreddog ym myd pensaernïaeth gofal iechyd, ac maen nhw’n cydnabod rhagoriaeth broffesiynol mewn dylunio amgylcheddau gofal iechyd ar draws y byd. Yr ysbyty newydd, a ddyluniwyd gan White Arkitekter, fydd yr ysbyty gwyrddaf yn y DU.

Mae dyluniad y ganolfan ganser newydd yn canolbwyntio ar y claf, ac yn canolbwyntio ar yr amgylchedd. Bydd yn cyfuno cyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer triniaeth ac ymchwil, ochr yn ochr â gofod awyr agored tawel, a bydd yn annog gwell bioamrywiaeth, ac yn cyflwyno buddion i'r amgylchedd a'r gymuned.

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, David Powell: "Rwy'n falch iawn bod gwaith caled tîm ein prosiect a'n hymrwymiad i ddyluniad cynaliadwy sy'n gosod cleifion wrth galon ein hysbyty newydd wedi cael eu cydnabod. Mae adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yn ein galluogi i gadw fyny â'r galw cynyddol wrth i nifer y bobl sydd yn cael eu cyfeirio atom gyda chanser dyfu bob blwyddyn. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ysbyty cynaliadwy ar gyfer iechyd ein hamgylchedd, ein cleifion a'n staff, a'r gymuned ehangach.

"Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd ein canolfan ganser yn paratoi'r ffordd i'r GIG gyflawni ei nodau lleihau carbon ehangach, ac i ddarparu ysbyty carbon isel rhagorol."

Roedd y categori yr enillodd y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn cynnwys prosiectau sydd yn gallu dangos y potensial ar gyfer cyflawni canlyniadau rhagorol mewn cynllunio meistr, creu lleoedd, gwell iechyd, paratoi ar gyfer pandemigau a datblygu cynaliadwy, ac sydd yn alinio â gofynion strategol y darparwr gofal iechyd i drawsnewid ei wasanaethau yn y gymuned ehangach, ranbarthol neu'r system iechyd genedlaethol. Roedd y Ganolfan Ganser Felindre newydd ar restr fer o bedwar cystadleuydd o'r DU a Denmarc. Gallwch ddarllen mwy am y gwobrau yma: https://shorturl.at/hvxLM