Neidio i'r prif gynnwy

Effaith y pandemig Coronafeirws ar y Ganolfan Ganser Felindre newydd

Coronavirus banner

Mae newidiadau yn y gwaith i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd wedi cael eu cyhoeddi oherwydd y pandemig coronafeirws.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi’r gorau i brosesu ceisiadau cynllunio, felly mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn gohirio cyflwyno dau gais i adeiladu ffyrdd mynediad i’r ganolfan newydd.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn edrych eto ar bryd i gyflwyno’r ceisiadau cynllunio, ar ddiwedd mis Ebrill.
Mae Felindre wedi gohirio dechrau’r broses gaffael i ddod o hyd i gonsortiwm i adeiladu’r ganolfan ganser hefyd.

David Powell Meddai David Powell, y Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd, “Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’r prosiect. Rydym angen Canolfan Ganser Felindre newydd gymaint ag erioed. Dydy’r pandemig coronafeirws ddim wedi newid hynny.

“Does gan Ganolfan Ganser Felindre, sy’n 60 oed, ddim y cyfleusterau na’r gofod i ateb heriau’r dyfodol.

“Po fwyaf o amser mae’n ei gymryd i adeiladu canolfan ganser newydd, y mwyaf o bwysau rydym yn ei roi ar ein staff a’n cyfleusterau, sydd dan bwysau’n barod.

“Ond yr her uniongyrchol i gymdeithas ar hyn o bryd ydy delio gyda’r pandemig hwn. Mae Llywodraeth Cymru, y GIG ac awdurdodau lleol – pawb i ddweud y gwir- yn defnyddio ein hegni a’n hadnoddau i ganolbwyntio ar y pandemig – ac fel hyn y dylsai fod.

“Rydym yn ymrwymo gymaint o amser ein staff ag y gallwn i barhau i redeg ein gwasanaethau rheng flaen i gleifion.

“Ni allaf fod yn sicr pryd y byddwn yn gallu cyhoeddi’r hysbysiad contract, ond rydym yn bwriadu ei ohirio am o leiaf tri mis, o fis Mai ymlaen. Nid ydym eisiau dechrau proses gaffael tan y byddwn yn gallu bod yn sicr na fydd dim yn amharu ar y broses.

“Mae ein cynlluniau wedi’u datblygu’n dda. Mae ein hachos busnes wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i graffu arno. Rydym yn gwybod bod gan y farchnad ddiddordeb. Rydym yn gwybod hefyd, y bydd angen llawer o help ar yr economi, ar ôl i’r pandemig ddod i ben.”