Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Park Road

Yn gyntaf, ar ran tîm prosiect y Ganolfan Ganser Felindre newydd, hoffwn ddiolch i chi am eich cydweithrediad wrth i ni barhau â'r datblygiad. Rydym yn gwerthfawrogi bod y gwaith priffyrdd ar dir Ysbyty'r Eglwys Newydd wedi cyflwyno heriau i chi a’r gymuned leol ehangach ac rwy’n ddiolchgar i chi am eich cyd-weithrediad.

Yn wreiddiol, roeddem wedi cynllunio gosod arwyneb newydd ar Park Road ym mis Rhagfyr. Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw, cawsom ein gorfodi i ohirio’r gwaith.

Rydym bellach wedi aildrefnu'r dyddiadau ar gyfer y gwaith hwn ar ôl trafodaethau gyda Chyngor Caerdydd.

I gwblhau'r gwaith priffyrdd, bydd angen i ni gau Park Road yn yr Eglwys Newydd dros dro ar adegau penodol o 15-17 Ionawr. Mae hyn oherwydd y bydd angen i ni osod arwyneb newydd ar y ffordd sy'n gofyn am ei chau'n llawn i sicrhau diogelwch pawb.

Bydd y gwaith ei hun yn cynnwys:

  • Cael gwared ar haen arwyneb presennol y ffordd. 
  • Gosod haen arwyneb newydd. 
  • Gosod marciau ffordd newydd. 
  • Gosod arwyneb terfynol ar y troedffyrdd. 

Pryd fydd y gwaith yn digwydd? 

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi hysbysiad Adran 61 i ni er mwyn galluogi i'r gwaith arwynebu terfynol ddigwydd y tu allan i oriau adeiladu safonol. Rydym wedi dewis yr amseroedd hyn er mwyn sicrhau fod y gwaith yn amharu cyn lleied â phosibl ar ein cleifion, ein staff a'r gymuned leol.   Dyma nhw:

Sul Ionawr 15 o 9yb i 7yh

Llun Ionawr 16 rhwng 7yh

Mawrth Ionawr 17 rhwng 7yh a 1yb

Rydym wedi darpargu Cwestiynau Cyffredin Byr i'ch helpu i ddeall yr hyn rydyn ni'n ei drefnu.

Ble mae'r ardal sydd wedi cau? 

Bydd y ffordd ar gau o Lôn Y Celyn i tua 50m heibio'r fynedfa o Park Road i dir ysbyty'r Eglwys Newydd, felly dim ond defnydd o’r ardal honno fydd yn cael ei heffeithio'n uniongyrchol. Gobeithio bydd y map wedi ei atodi yn ddefnyddiol.

Dwi’n byw o fewn yr ardal sydd wedi cau - sut fydd hynny'n effeithio arna i? 

Os ydych chi'n byw yn yr ardal sydd ar gau, bydd marsialiaid traffig ar waith i ganiatáu preswylwyr a'u cerbydau i gael mynediad i'w cartrefi

Yn yr un modd, bydd mynediad i Park Avenue, Clos Coed Hir ac i breswylwyr ar hyd Park Road a'r stryd gyfagos yn cael eu cynnal, er efallai byddwn yn gofyn i chi aros am gyfnod byr i sicrhau mynediad diogel i chi ar hyd y briffordd.

Bydd mynediad i gerddwyr ar y llwybrau troed o fewn yr ardal gaeedig yn cael ei gynnal bob amser. 

Os ydych chi’n byw ar Park Road...

Mae'n bosibl y bydd gofyn i rai o drigolion Park Road gael mynediad (mewn ag allan) o’r/i’r ardal gaeedig o gyfeiriadau amgen, h.y. naill ai pen Coryton neu'r Eglwys Newydd, wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

 

Os ydych chi’n byw yn Clos Coed Hir....

Yn ystod y gwaith, bydd trigolion Clos Coed Hir yn dod i mewn ac yn gadael o gyferiad Coryton h.y. i'r chwith wrth i chi adael Clos Coed Hir, gan nad yw'r gwaith yn dechrau tan ar ôl y gyffordd. Ni fydd modd ichi fynd gyrraedd Clos Coed Hir o bentref yr Eglwys Newydd ar hyd Park Road.

Rydym yn gwerthfawrogi'r anghyfleustra y gallai hyn ei achosi gan y gallai fod angen i drigolion yrru i ochr arall y dargyfeiriad i gyrraedd adref ond dyma'r unig ffordd o gynnal mynediad drwy gydol y gwaith ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cydweithrediad i gynnal mynediad bob amser.

A fydd rhaid i mi symud fy nghar cyn cau’r ffordd? 

Os ydych chi'n byw o fewn yr ardal gaeedig, ni fydd rhaid i chi symud eich car. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dymuno parcio tu allan i'r ardal gaeedig er mwyn hwyluso symud. 

Sut fydd y cau yn effeithio ar fynediad i Ganolfan Ganser Felindre?

Yn ystod yr amseroedd dynodedig, dim ond trwy bentref yr Eglwys Newydd gallwch sicrhau mynediad i Ganolfan Ganser Felindre. Ni fyddwch yn gallu teithio yn eich car i'r ganolfan ganser o Gylchfan Coryton ar hyd Park Road gan na fydd modd defnyddio cerbydau ar y ffordd honno yn y modd arferol. Bydd dargyfeiriadau ar waith i'ch arwain a bydd y map sydd ynghlwm yn ddefnyddiol.  

Bydd mynediad i gerddwyr ar y llwybrau troed o fewn yr ardal gaeedig yn cael ei gynnal bob amser. 

Diolch.  

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae oedi traffig yn ei gael ar fywydau bob dydd pobl ac yn deall y rhwystredigaethau rydych yn teimlo. Gwerthfawrogwn fod y gwaith a amlinellir yn cyflwyno heriau  pellach ac rydym yn gweithio'n galed i'w datrys lle gallwn cyn gynted â phosibl.

Rhowch wybod os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach os gwelwch yn dda drwy gysylltu â Cysylltu.Felindre @wales.nhs.uk.

Diolch i bawb am eich cydweithrediad parhaus wrth inni weithio i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.

Dymuniadau gorau  

David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Canser