Neidio i'r prif gynnwy

Dau adroddiad amgylcheddol i gefnogi Canolfan Ganser Velindre newydd

Mae dau adroddiad amgylcheddol wedi’u cyflwyno i Gyngor Caerdydd er mwyn mynd i’r afael ag amodau cynllunio ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd.

Wedi’u hymgasglu gan Mott MacDonald Limited ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae’r dogfennau’n mynd i’r afael yn ffurfiol â nifer o’r ymholiadau ynghylch datblygiad y ganolfan ar dir dolydd y gogledd sy’n eiddo i’r GIG yn yr Eglwys Newydd.

Ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi nôl ym mis Mawrth 2018, roedd yn ofynnol gan y cyngor fod Felindre yn datblygu Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd (GIMS) a Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu (CEMP).

Mae’r ddwy ddogfen dechnegol yn ategu uchelgais Felindre i adeiladu ysbyty gwyrddaf Prydain trwy asesu a chadarnhau cymwysterau amgylcheddol y Ganolfan.

Dywedodd David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Rydym wedi pwysleisio ein hymrwymiad yn flaenorol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd sy’n cefnogi amrywiaeth ecolegol ac amgylchedd naturiol dolydd y gogledd. Ein huchelgais yw adeiladu’r ysbyty gwyrddaf ym Mhrydain ac mae’r ddwy ddogfen, y Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd a Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu, yn darparu sylwedd i gefnogi’r uchelgais hon.”

Mae’r Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd, sy’n 93 tudalen o hyd, yn disgrifio sut y bydd Felindre yn diogelu coed, planhigion ac anifeiliaid  yn nolydd y gogledd. Mae’n cwmpasu goleuadau, pridd, plannu newydd a gwelliannau i fioamrywiaeth.

Trwy fynd i’r afael â chamau i reoli a chyfyngu ar draffig adeiladu, sŵn a llwch, mae Cynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu yn dangos sut y bydd Felindre yn rheoli effaith adeiladu’r ganolfan ganser newydd. Mae’n pwysleisio’r angen i gyfathrebu’n weithredol ac yn agored â phobl sy’n byw ger y safle.

Bydd y ddwy ddogfen, sef y Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd a Chynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu, yn cael eu diweddaru a’u datblygu ymhellach ar ôl penodi contractwyr ar gyfer y gwaith adeiladu.

Mae Felindre hefyd wedi gwneud cyflwyniadau ar dri amod arall sy’n rhan o’i ganiatâd cynllunio. Mae’r ymddiriedolaeth wedi cynnal arolwg pridd o’r safle ac mae wedi darparu mwy o fanylion am y pontydd y mae’n eu hadeiladu. Mae hefyd yn datblygu gwelliannau o ran mynediad i gerddwyr a beicwyr o’r safle i Heol y Parc a gorsaf Coryton.

Bydd Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar y Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd, Cynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu a chyflwyniadau eraill, a’r dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Mercher, 26 Awst, 2020.

Gellir gweld pob rhan o’r Strategaeth Rheoli Seilwaith Gwyrdd ar wefan y cyngor yma: https://planningonline.cardiff.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?keyVal=_CARDIFF_DCAPR_131590&activeTab=summary  (Saesneg unig).

Gellir gweld pob rhan o Gynllun Rheoli’r Amgylchedd Adeiladu ar wefan y cyngor yma: https://planningonline.cardiff.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?keyVal=_CARDIFF_DCAPR_131630&activeTab=summary  (Saesneg unig).

Gellir gweld pob rhan o ddogfen ‘Canolfan Ganser Felindre ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: ein huchelgais i ddatblygu’r ysbyty gwyrddaf ym Mhrydain’ yma.