Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre

Rydym yn ddiolchgar i’r Nuffield Trust am y cyngor a’r argymhellion y mae wedi’u cyhoeddi heddiw ar y model clinigol arfaethedig sy’n sail i oncoleg anlawfeddygol yn ne-ddwyrain Cymru. Croesawn yr adroddiad.

O dan gyfarwyddyd strategol ei Phrif Swyddog Gweithredol, mae’r Nuffield Trust wedi cynnal dadansoddiad manwl o’r dystiolaeth ar sail ymgysylltiad â thrawstoriad o staff ac amrywiaeth o randdeiliaid ar draws y rhanbarth. Ystyriwyd hyn gan banel arbenigol sydd â chyfoeth o arbenigedd ym maes iechyd ac oncoleg.

Bydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ystyried y cyngor a’r argymhellion dros yr wythnosau nesaf. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â’n staff, cleifion, Cynghorau Iechyd Cymunedol a Byrddau Iechyd i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau canser rhagorol i bobl de ddwyrain Cymru.

Mae adroddiad y Nuffield Trust ar eu gwefan yma.