Neidio i'r prif gynnwy

Cytundeb i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd

Prynhawn yma, daeth yr Ymddiriedolaeth a chonsortiwm Acorn i gytundeb terfynol ar ddylunio, adeiladu a chynnal Canolfan Ganser newydd Felindre, y bwriedir iddi agor yn 2027.

Bydd y ganolfan ganser newydd yn darparu cyfleuster hanfodol o'r radd flaenaf lle gallwn ddarparu gofal a thriniaeth i gleifion heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth i fwy ohonom gael diagnosis o ganser.

Mae’r Ganolfan Ganser Felindre bresennol yn dyddio nôl dros 68 o flynyddoedd ac mae'n gwasanaethu 1.7 miliwn o gleifion yn ne-ddwyrain Cymru ac eraill ymhellach i ffwrdd. Mae'n darparu ystod o wasanaethau canser trydyddol anlawfeddygol ar gyfer y rhanbarth mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a gofal canser yng Nghymru. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ar y safle yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda'r agoriad wedi'i drefnu ar gyfer 2027.

Daw'r datblygiad flwyddyn ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, gyhoeddi cyllid (Ionawr 2023) ar gyfer cyfleusterau trin canser, offer a meddalwedd yn ne-ddwyrain Cymru i drawsnewid sut mae gwasanaethau radiotherapi yn cael eu darparu. Mae offer o'r radd flaenaf yn disodli'r fflyd bresennol ar gyfer radiotherapi cyflymydd llinellol a bydd dau arall yn cael eu gweithredu o ganolfan loeren radiotherapi newydd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni a fydd yn agor yn 2025.

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig yn y prosiect i adeiladu ein canolfan ganser newydd, mawr ei hangen. Rydym yn falch o'r gwaith y mae ein staff yn ei wneud o ddydd i ddydd, yn rhoi triniaeth, gofal a chymorth i gleifion o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru.

"Nawr, byddwn yn adeiladu cyfleuster GIG o'r radd flaenaf a fydd yn cefnogi ein staff i ddarparu gofal o'r safon uchaf i gleifion canser ledled de Cymru a thu hwnt. Bydd yn weithle ysbrydoledig i'n staff ymroddedig ffynnu, a chefnogi ymchwil a chydweithio o fri rhyngwladol ym maes canser ledled y rhanbarth. Bydd y ganolfan newydd yn nodwedd hirhoedlog o ystâd ehangach GIG Cymru ac yn creu meincnod ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol."

Mae Canolfan Ganser Felindre newydd yn fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith gofal iechyd ac yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gofal canser a hyrwyddo ymchwil feddygol yng Nghymru a thu hwnt. Mae dyluniad y ganolfan ganser newydd yn canolbwyntio ar gleifion a staff ac yn un o'r ysbytai mwyaf cynaliadwy yn y DU. Bydd yn cyfuno cyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer triniaeth ac ymchwil ochr yn ochr â gofod llonydd yn yr awyr agored sy'n annog gwell bioamrywiaeth ac yn rhoi yn ôl i'r amgylchedd a'r gymuned.

Dywedodd Richard Coe, Cyfarwyddwr Prosiect, Kajima Partnerships: "Mae wedi bod yn daith gyffrous i ni mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth i weithio tuag at y nod hwn wrth i ni ddatblygu canolfan ganser ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Bydd ein dyluniad yn sicrhau bod y ganolfan newydd yn cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd a'i bod yn darparu cyfleuster ymarferol, cain lle gall cleifion, staff a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r ganolfan a'r tirlun newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, David Powell: "Hoffwn ddiolch i'n holl staff ymroddedig am eu cyfraniadau i'n harwain i’r garreg filltir ganolog hon. Bydd cam nesaf cyffrous ein prosiect yn adeiladu ar flynyddoedd o waith caled ac rydym yn edrych ymlaen at rannu'r daith gyda staff, cleifion a phawb yn ein cymuned."

Mae’r Ganolfan Ganser Felindre newydd yn cael ei hariannu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Mae'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yn fodel a ddyluniwyd gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr, er enghraifft prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Penodwyd consortiwm Acorn yn dilyn proses gaffael gyhoeddus a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ac mae'n cynnwys Sacyr, Abrdn, Kier Facilities Services, White Arkitekter, BAC, Hydrock, Ingho, ICCA, MJ Medical, Turley, Studio Response, Penseiri Tirwedd Camlins, RSK, Bureau Veritas, Osborne Clarke, Operis, Howden, Mazars, Cloud Nine, Evolution Infrastructure, Addleshaw Goddard, Cors, AECOM, Lloyds, Geldards, Pinsent Mason ac Artelia.

Mae'r grŵp cyllido yn cynnwys Aviva Investors, Siemens, Banc Ymddiriedolaeth Sumitomo Mitsui, CaixaBank, Norinchukin, Nomura a Nord/LB.

Byddwn yn darparu diweddariadau pellach pan fydd ar gael wrth i'r gwaith ddechrau ar gam nesaf ein prosiect. Dilynwch ein cyfrif Velindre Matters ar Facebook ac X am ein holl gyhoeddiadau diweddaraf a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm yn cysylltu.felindre@wales.nhs.uk