Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau i gael mynediad i'r Ganolfan Ganser Felindre newydd

Mae cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer adeiladu ffyrdd mynediad i Ganolfan Ganser newydd Felindre.

Mae’r ganolfan newydd, sydd yn gwasanaethu De Ddwyrain Cymru i gyd, i fod i agor yn 2024.  Bydd y ganolfan yn gallu derbyn 8,500 o gleifion newydd a 160,000 o apwyntiadau cleifion y flwyddyn – sy’n gynnydd o 2000 a 20,000 o’i gymharu â’r lefelau presennol.

  General Map Welsh

Mae cynlluniau drafft ar gael sy’n ymwneud â chynlluniau ffyrdd a pharcio newydd yn siop Asda yn Coryton, lle bydd y prif fynediad i Ganolfan Ganser newydd Felindre. Maen nhw ar gael i wneud sylwadau arnynt erbyn dydd Sul, 22 Mawrth. Yna, bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Asda yn cyflwyno cais cynllunio ar y cyd i Gyngor Dinas Caerdydd benderfynu arno.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio ymestyn y cyfnod pan ellir defnyddio’r ffordd adeiladu dros dro ar safle ysbyty’r Eglwys Newydd hefyd.  Rydym eisiau defnyddio’r ffordd ar gyfer adeiladu mynediad i’r ganolfan newydd ac ar gyfer adeiladu’r ganolfan ei hun. O ganlyniad, gall Felindre leihau costau, a dod â’r dyddiad agor yn agosach.

Wrth siarad am brif fynedfa Asda, dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Felindre, David Powell: “Bydd y mynediad yn fwy cyfleus i’r rhan fwyaf o gleifion a staff sy’n teithio i’r ganolfan ganser ar draws De Ddwyrain Cymru, nid Caerdydd yn unig.

“Bydd hefyd yn lleihau’r tagfeydd traffig a achosir gan bobl yn gyrru drwy’r Eglwys Newydd i’r ganolfan ganser bresennol yn sylweddol”

Gan gyfeirio at y cais cynllunio ar gyfer y ffordd mynediad adeiladu dros dro ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd, dywedodd David: “Bydd yr estyniad, mewn amser, yn ein helpu i agor Canolfan Ganser newydd Felindre ddeng mis yn gynharach, yn 2024. Bydd hefyd yn arbed hyd at £11,500,000 o arian cyhoeddus.”

Yn nhymor y gwanwyn 2018, rhoddodd Cyngor Dinas Caerdydd ganiatâd cynllunio ar gyfer y ganolfan newydd, gyda phrif fynediad o safle Asda, mynediad brys o Heol Hollybush a mynediad dros dro i draffig adeiladu drwy hen safle Ysbyty’r Eglwys Newydd a Chae’r Arglwyddes Cory.

Gallwch weld y cynlluniau ar wefan The Urbanists.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwybod mwy a sut i wneud sylwadau, ewch i’r dudalen we hon.