Neidio i'r prif gynnwy

Consortiwm Acorn i ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd

 

Heddiw, 27 Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd enw cyfranogwr llwyddiannus y ddeialog gystadleuol i ddylunio, adeiladu, cyllido a chynnal Canolfan Ganser newydd Felindre. 

Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer poblogaeth de-ddwyrain Cymru. Ym mis Medi 2021, lansiodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gystadleuaeth i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o'r achos busnes amlinellol ym mis Mawrth 2021. 

Yn dilyn cystadleuaeth naw mis a gyflwynodd ddau gais eithriadol o gryf, gall Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gyhoeddi mai'r cyfranogwr llwyddiannus a fydd yn gweithio gyda chleifion, staff a'r gymuned leol ar ddatblygu'r ganolfan newydd yw consortiwm Acorn. Mae tîm y consortiwm yn cynnwys Partneriaethau Kajima, Sacyr, Abrdn, Andrew Scott, Gwasanaethau Cyfleusterau Kier, White Arkitekter, Arup, MJ Medical, Turley, Studio Response, Camlins Landscape Architects, Osborne Clarke, Operis a Confab Lab.

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:

"Mae ein huchelgais ar gyfer dylunio'r ganolfan newydd wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf – rydym am adeiladu canolfan ganser i'r dyfodol sef y gwyrddaf yn y DU. Roeddem wrth ein boddau gyda'r cynigion a gyflwynwyd ac rydym yn ddiolchgar i'r cynigwyr am eu hymrwymiad rhyfeddol i'r broses ddeialog gystadleuol. Fe ofynnon ni am ddyluniad sy'n gwneud i bobl deimlo'n dda, sy’n gryf, yn hirhoedlog, yn hyblyg ac yn effeithlon. Mae gennym ni hynny – a chymaint mwy. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein claf cyntaf i'r ganolfan newydd."

Dywedodd David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser Felindre newydd am y cais buddugol:

"Bydd y pecyn o fuddion cymunedol byddwn yn ei ddarparu mewn partneriaeth ag Acorn yn sicrhau buddion gwirioneddol i'r gymuned leol ac ehangach yn ystod y gwaith adeiladu ac wedi hynny. Rwyf am ddiolch i'n staff hynod ymroddedig am eu mewnbwn i'r broses. Does dim amheuaeth ein bod ni wedi elwa'n fawr o'u brwdfrydedd a'u harbenigedd digyffelyb – a'r cyfan yn wyneb pwysau gwasanaeth eithafol yn sgil pandemig digyfaddawd. Rwy'n hyderus bydd y cynlluniau a gyflwynwyd yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf i'n cleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd a'n staff. Canolfan ganser newydd y gallwn ni gyd ymfalchïo ynddi.”

Dywedodd Richard Coe, Cyfarwyddwr Prosiect Acorn o Kajima Partnerships:

"Rydym wrth ein bodd i gael ein dewis yn gyfranogwr llwyddiannus Canolfan Ganser Felindre newydd ar ôl proses gaffael gadarn. Mae hi wedi bod yn daith gyffrous i ni ddatblygu, mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth, ganolfan ganser ar gyfer nawr a chenedlaethau'r dyfodol, a fydd hefyd yr ysbyty mwyaf cynaliadwy yn y DU. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dangos gwir angerdd dros ddefnyddio'r buddsoddiad i sicrhau iechyd a chyfoeth cymunedol pellach. Rydym wedi ymateb i'r briff hwn trwy edrych ar sut, drwy bob cam o'r prosiect, gallwn greu ffyrdd o ymgysylltu â staff, cleifion a chymunedau i sicrhau buddion mesuradwy. Yn sail i'n dull gweithredu mae ymrwymiad cryf i swyddi a sgiliau lleol ac ymgysylltu â busnesau lleol i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud Cymru'n fwy gwydn nawr ac i'r dyfodol. Datblygwyd ein dyluniad i sicrhau ei fod yn cael cyn lleied o effaith a phosib ar yr amgylchedd lleol a'i fod yn darparu cyfleuster ymarferol, cain lle gall cleifion, staff ac aelodau o'r gymuned ddefnyddio'r ganolfan a'r safle sydd wedi'u tirweddu. Mae’n bwysicach nag erioed bod ardaloedd trin cleifion a chyfleusterau’r staff yn helpu'r gwaith o ddarparu triniaeth a gwella lles ac adferiad.”

Dywedodd Carlos Berriochoa, Cyfarwyddwr Cais Byd-eang, Sacyr:

"Rydym yn falch iawn o allu cyfrannu at ddatblygiad prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, a fydd yn gyfraniad newydd at system gofal iechyd Cymru. Rydym am ddod a’n profiad helaeth yn y maes adeiladu ysbytai a rheoli asedau i brosiect Felindre, gan mai hwn yw ein degfed ysbyty yn Ewrop ac America o dan ddull partneriaeth hirdymor.

 

Bydd yr arbenigedd hwn yn ein galluogi, ynghyd â'n partneriaid, i ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n diwallu anghenion presennol y cleifion a'r system ofal iechyd yn y dyfodol."