Neidio i'r prif gynnwy

Cau Park Road

Rwy'n falch o adrodd bod y gwaith priffyrdd ar fynedfa tir Ysbyty'r Eglwys Newydd yn mynd yn ei flaen yn dda ac ar y trywydd iawn i'w cwblhau cyn y Nadolig yn ôl y bwriad. Bydd y system rheoli traffig yn dod i ben ar 20 Rhagfyr.

Rydym yn gwerthfawrogi bod y gwaith wedi cyflwyno heriau i'r gymuned leol ac rydym yn ymddiheuro am hynny. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich hamynedd a'ch cydweithrediad parhaus.

Wrth i ni agosáu at gwblhau’r gwaith, bydd angen i ni gau Park Road yn yr Eglwys Newydd dros dro ar adegau penodol o 18-20 Rhagfyr. Mae hyn oherwydd bod angen gosod arwyneb newydd ar y ffordd sy'n gofyn am ei chau'n llawn er mwyn sicrhau diogelwch pawb. Bydd y gwaith ei hun yn cynnwys:

  • cael gwared ar haen arwyneb presennol y ffordd 
  • gosod haen arwyneb newydd 
  • gosod marciau ffordd newydd 
  • gosod arwyneb terfynol ar y troedffyrdd

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi hysbysiad Adran 61 i ni er mwyn galluogi i'r gwaith arwyneb terfynol ddigwydd y tu allan i oriau adeiladu safonol. Rydym wedi dewis yr amseroedd hyn er mwyn sicrhau fod y gwaith yn amharu cyn lleied â phosibl arnoch chi, ein staff a’n cleifion.  Dyma nhw:

Dydd Sul Rhagfyr 18 o 9am i 7pm

Dydd Llun Rhagfyr 19 rhwng 7pm a 1am

Dydd Mawrth Rhagfyr 20 rhwng 7pm a 1am 

Rydym yn deall y gallai hyn gyflwyno rhai materion teithio i gynulleidfaoedd o ystyried yr amseru ar ddydd Sul ac roeddem eisiau gwybod i chi o flaen llaw fel y byddwch chi'n gallu rhannu'r wybodaeth a chynllunio yn unol â hynny.

Ble mae'r ardal gaeedig?

Bydd y ffordd ar gau o Lôn y Celyn i tua 50m heibio'r fynedfa o Park Road i dir Ysbyty'r Eglwys Newydd, felly dim ond yr ardal honno fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol. Gobeithio bydd y map sydd wedi ei atodi yn ddefnyddiol.

Sut fydd y cau yn effeithio arna i? 

Yn ystod yr amserau dynodedig, ni fyddwch yn gallu teithio yn eich car nôl a blaen rhwng Coryton a phentref yr Eglwys Newydd ar hyd Park Road. Bydd dargyfeiriadau ar waith i'ch arwain a bydd y map wedi ei atodi yn ddefnyddiol. Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal ar y llwybrau troed trwy gydol y gwaith.

Dwi'n byw o fewn yr ardal sydd wedi cau - sut fydd hyn yn effeithio arna i? 

Os ydych chi'n byw o fewn yr ardal gaeedig, bydd marsialiaid traffig ar waith i ganiatáu i drigolion a'u cerbydau gael mynediad i'w cartrefi. 

Yn yr un modd, bydd mynediad i Park Avenue, Clos Coed Hir ac i breswylwyr ar hyd Park Road yn cael eu cynnal, er efallai y gofynnir i chi aros yn am gyfnod byr i sicrhau mynediad diogel ar hyd y briffordd.

Mae'n bosibl y bydd rhai o drigolion Park Road a Park Avenue yn cael eu gofyn i gael mynediad ac ymadael o'r ardal gaeedig o naill ai pen Coryton neu'r Eglwys Newydd wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen. Bydd y cyfeiriad yn newid yn ystod y dydd wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar hyd y ffordd.

Yn ystod y gwaith, bydd trigolion Clos Coed Hir yn mynd i mewn ac allan o’r Clos o gyfeiriad Coryton h.y. i'r chwith wrth i chi adael Clos Coed Hir, gan nad yw'r gwaith yn dechrau tan ar ôl cyffordd y briffordd honno. Ni fyddwch yn cael mynediad i Clos Coed Hir o bentref yr Eglwys Newydd ar hyd Park Road.

Rydym yn gwerthfawrogi'r anghyfleustra y gallai hyn ei achosi gan y gallai fod angen i drigolion yrru i ochr arall y dargyfeiriad i gyrraedd adref ond dyma'r unig ffordd o gynnal mynediad drwy gydol y gwaith ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cydweithrediad i gynnal mynediad bob amser.

A fydd rhaid i mi symud fy nghar cyn y cau? 

Os ydych chi'n byw o fewn yr ardal gaeedig, nid oes gofyn i chi symud eich car. Fodd bynnag, efallai yr hoffech barcio y tu allan i'r ardal wedi ei chau er mwyn hwyluso symud

Diolch

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae oedi traffig yn ei gael ar drefniadau dyddiol pobl ac yn deall y rhwystredigaeth rydych chi’n teimlo. Rydym yn gwerthfawrogi bod y gwaith yn cyflwyno tarfu pellach ac rydym yn gweithio'n galed i'w lleddfu lle gallwn cyn gynted â phosibl. Rhowch wybod os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach cysylltwch â  Contact.Velindre@wales.nhs.uk neu gallwch ddod draw i siop goffi Gathering Ground ar 6 Rhagfyr rhwng 6yh a 8yh.

Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth inni weithio i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.

Dymuniadau gorau,  

David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser Felindre newydd